Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi bod ei Charfan Strategaeth Tai wedi ennill gwobr Prosiect Graddfa Fach Ranbarthol (llai na £250,000) y Flwyddyn am eu Cynllun Mân Fesurau sy'n cael ei ddarparu gan y Garfan Gwresogi ac Arbed.
Mae'r gwobrau'n dathlu mentrau ynni effeithiol ledled Cymru ac yn cydnabod y rhai sy'n arwain o ran yr arferion gorau yn y diwydiant effeithlonrwydd ynni.
Cafodd y Garfan Strategaeth Tai ei henwebu gan Gwerin Management am gynllun y Cyngor, sy’n cynorthwyo cartrefi agored i niwed sy’n profi tlodi tanwydd, neu’n wynebu’r risg o hynny. Mae'r cynllun yn cynnig hyd at £500 i gartrefi ag incwm isel er mwyn gosod mân welliannau effeithlonrwydd ynni, megis:
- Defnydd gwrth-ddrafft
- Gosod rheiddiaduron
- Atgyweiriadau boeleri
- Gwaith insiwleiddio'r atig
- Inswleiddio rhannol waliau ddwbl
Cafodd y cynllun ei sefydlu o ganlyniad i ddiffygion mewn polisïau ynni cenedlaethol sy'n atal cartrefi rhag cael gafael ar gymorth ariannol. Mae hyn unai o ganlyniad i gartrefi’n methu â fforddio’r gwaith sydd ei angen er mwyn dod o hyd i gyllid pellach, neu oherwydd diffyg cyllid ar gyfer mân welliannau ynni. Mae'r mân welliannau ynni yma yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i gynhesu cartrefi yn ogystal â gwella cysurdeb.
Mae'r cynllun wedi caniatáu i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau gael gafael ar welliannau effeithlonrwydd ynni i'w cartrefi. Mae wedi arwain at arbedion o ran ynni, cartrefi mwy cyfforddus a chynnydd yn lles y cartrefi yma. Mae derbyn cymorth ar gyfer y mân fesurau yma wedi helpu cartrefi i osod drysau er mwyn cael mynediad i'r atig. Mae hyn wedi’u helpu i gael gafael ar ddeunydd inswleiddio’r atig am ddim, neu wedi'i ariannu'n llawn. Mae hefyd wedi gallu darparu mân fesurau eraill i ganiatáu i rai cartrefi gael cymorth grant allanol. Hyd yma, mae cyfanswm o 84 o gartrefi wedi derbyn cymorth gan y grant.
Meddai’r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu "Mae'n wych bod y garfan wedi cael ei chydnabod am y gwaith mae’n ei wneud yn Rhondda Cynon Taf i gynorthwyo nifer o'n cartrefi mwyaf agored i niwed yn ystod cyfnod mor ansicr. Diolch enfawr i Crispin Jones o Gwerin Management am yr enwebiad.
"Wedi nodi rhwystrau mae preswylwyr yn eu hwynebu er mwyn cael gafael ar gymorth pellach, mae'r garfan wedi creu cynllun i hwyluso hyn, gan helpu pobl i inswleiddio a chynhesu eu cartrefi'n well.
"Mae'r cynllun yma'n un o sawl cynllun arloesol y Cyngor sydd ar gael i breswylwyr, ac mae'r garfan bob amser ar gael i ddarparu cyngor ac arweiniad."
Mae gyda’r Garfan Gwresogi ac Arbed grant gwresogi a grant paneli solar hefyd, sydd ar gael i breswylwyr er mwyn helpu i wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni. Mae rhagor o wybodaeth am y grantiau yma a gwasanaethau eraill sydd ar gael gan y Garfan Gwresogi ac Arbed i'w canfod yma.
Wedi ei bostio ar 21/02/2023