Nodwch – bydd angen mesurau rheoli traffig ar Bont Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm #Aberpennar er mwyn atgyweirio gorchuddion dau dwll archwilio.
Bydd angen goleuadau traffig tair ffordd dros dro ar ochr Heol Meisgyn y bont o ddydd Iau, 23 Chwefror. Bydd y goleuadau parhaol yn cael eu defnyddio eto nos Sul, 26 Chwefror.
Bydd contractwr y Cyngor yn ailosod gorchuddion y tyllau archwilio gyda choncrit, gan adael iddyn nhw galedu cyn i draffig yrru drostyn nhw.
Fydd dim cost i'r Cyngor gan y bydd y contractwyr yn talu am y gwaith atgyweirio, sydd wedi’i drefnu yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl.
Diolch am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 20/02/23