Skip to main content

2023 i Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda

miners

P'un a ydych chi'n ymwelydd rheolaidd neu'n ystyried ymweld â ni am y tro cyntaf, efallai bydd y canllaw yma'n ddefnyddiol i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gyda chi - felly daliwch ati i ddarllen!

Beth yw Taith Pyllau Glo Cymru?

Rydyn ni'n atyniad twristiaeth unigryw wedi'i leoli ger Porth - y fynedfa i Gymoedd y Rhondda yn ne Cymru. Rydyn ni'n croesawu ymwelwyr o bob oedran, teithiau bws a grwpiau ysgol, 5 diwrnod yr wythnos o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn rhwng 9am a 4.30pm. Mae llawer i'w wneud yma, felly rydyn ni wedi rhannu'r manylion yn ddarnau llai yn y canllaw isod:

Taith yr Aur Du yng Nghwmni Tywysydd

Ein taith fydd uchafbwynt eich ymweliad. Byddwch chi'n cael eich tywys o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser gan gyn-lowyr a fu'n gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda pan oedden nhw'n fechgyn ifainc, lle byddan nhw'n rhannu eu straeon am fywyd dan y ddaear. Yn rhan o'r daith byddwch chi'n teithio ar Dram - ein tram glo rhithwir sy'n mynd a chi ar daith o amgylch y pwll glo. Mae modd i'r daith gael ei mwynhau gan ymwelwyr o bob oed. Mae cadw lle yn hawdd - bwriwch olwg, yma.

Arddangosfeydd rhyngweithiol yn rhad ac am ddim

Mae ein harddangosfeydd digidol a rhyngweithiol rhad ac am ddim yn dod â hanes yn fyw. Dysgwch ragor am fywydau ein glowyr, perchnogion y glofeydd a chymunedau Cwm Rhondda a oedd yn gyfrifol am bweru'r byd. Eisteddwch ym mharlwr perchennog cyfoethog new ewch i siop draddodiadol.

Ewch i grwydro'r iard a darganfod y pethau cofiadwy o'r diwydiant glo - dramiau llawn glo, y Lloches Anderson hanesyddol a hen sylfeini'r efail a gafodd ei defnyddio gan gof y pwll glo. Does dim angen cadw lle - mae croeso i chi alw heibio pryd bynnag rydyn ni ar agor a gweld ein harddangosfeydd. Mae'r oriel ar y llawr cyntaf yn newid bob ychydig o fisoedd ac felly mae bob amser rheswm da i ddod yn ôl i ymweld â ni eto.

Teithiau Bws a Grwpiau Ysgol

Rydyn ni'n croesawu teithiau bws o bedwar ban byd ac yn cynnig profiadau pwrpasol - bwriwch olwg ar ein cynnig i grwpiau, yma, neu ffoniwch 01443 682036 i gael gwybod am yr hyn sydd gyda ni i'w gynnig!

Mae gyda ni becynnau addysgol ar gyfer disgyblion yn yr ysgol gynradd. Bwriwch olwg, yma, neu ffonio 01443 682036 am ragor o wybodaeth.

Caffi Bracchi, Y Siop Siocled a'r Craft of Hearts

Mae ein caffi ar y safle yn cynnig prydau a byrbrydau blasus, te prynhawn a llawer yn rhagor. Mae modd i chi hefyd brynu siocled a wnaed â llaw yn y Siop Siocled neu gadw lle ar ddosbarth meistr gwneud siocled neu ei logi ar gyfer cynnal parti i blant. Mae Craft of Hearts wedi'i leoli ar y llawr cyntaf ac mae'n gwerthu cyflenwadau crefft ac mae hefyd yn cynnig dosbarthiadau crefft.

Achlysuron

Rydyn ni wrth ein boddau yn cynnal achlysuron yma yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, ac yn mynd ati i drawsnewid y lleoliad dair gwaith y flwyddyn. Adeg y Pasg, rydyn ni'n cynnal Ŵy-a-sbri y Pasg gyda reidiau i blant, gweithgareddau a helfa wyau. Caiff achlysur Rhialtwch Calan Gaeaf ei gynnal yn y lleoliad ar gyfer Calan Gaeaf, a chaiff Ogof Siôn Corn, ein profiad hudolus tanddaearol, ei gynnal am fis cyfan cyn y Nadolig!

Wedi ei bostio ar 26/01/2023