Skip to main content

Diwrnod Cofio'r Holocost 2023

Welsh Holocaust Memorial Day 2023 WELSH

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 (ddydd Gwener, 27 Ionawr). Y thema eleni yw 'Pobl Gyffredin.'

Hwylusodd pobl gyffredin hil-laddiad. Anwybyddodd pobl gyffredin beth oedd yn digwydd, gan gredu propaganda ac ymuno â chyfundrefnau llofruddiol.

Dydy’r rhai sy’n cael eu herlid, eu gorthrymu a’u llofruddio mewn hil-laddiad ddim yn cael eu herlid oherwydd troseddau y maen nhw wedi’u cyflawni. Maen nhw'n cael eu herlid am eu bod nhw'n bobl gyffredin sy'n perthyn i grŵp penodol.

Roedd pobl gyffredin yn gysylltiedig â phob agwedd o'r Holocost ac yn yr hil-laddiadau yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur. Roedd pobl gyffredin yn gyflawnwyr, yn wylwyr, yn achubwyr, ac yn dystion. Roedd pobl gyffredin yn ddioddefwyr.

Rydyn ni'n gwahodd trigolion i gymryd ychydig o funudau o'u hamser ddydd Gwener, 27 Ionawr, i gofio a myfyrio ar ddigwyddiadau byd y gorffennol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2023, cofiwn ni am y 'bobl gyffredin' o bob oedran a gollodd eu bywydau.

“Mae’n ddiwrnod o fyfyrio wrth i ni gofio erchyllterau’r gorffennol. Erchyllterau fel yr Holocost a'r hil-laddiadau a ddilynodd yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

“Bob blwyddyn, mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn gyfle i ni gyd ddysgu rhagor am y gorffennol a gweithredu heddiw i gael dyfodol gwell. Mae gan bob un ohonom ran i'w chware yn hyn.   

"Mae bob amser yn bwysig bod y byd yn dod at ei gilydd ac yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. 

“Yma yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n falch o ddangos ein cefnogaeth. Rydyn ni'n cofio'r holl bobl ddiniwed hynny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost a’r hil-laddiadau a ddilynodd. Dyma benodau yn hanes ein byd na ddylid byth eu hailadrodd. 

"Mae arnon ni gyfrifoldeb dros genedlaethau'r dyfodol i sicrhau nad yw erchyllterau fel hyn yn digwydd eto."

Nod thema Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yw tynnu sylw at y 'bobl gyffredin' a oedd yn gadael i hil-laddiad ddigwydd. Y 'bobl gyffredin' a oedd yn mynd ati i gyflawni hil-laddiad, a'r 'bobl gyffredin' a gafodd eu herlid. Bydd y thema hefyd yn ein hysgogi i ystyried sut mae modd i 'bobl gyffredin', fel ni ein hunain, wneud mwy nag y gallen ni ei feddwl wrth herio rhagfarn heddiw.

Rydyn ni'n gofyn i bobl dreulio amser ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost i fyfyrio ar rai o’r cyfnodau gwaethaf yn hanes y byd. Cafodd miliynau o bobl eu lladd mewn modd creulon gan Natsïaid yr Almaen a'r hil-laddiadau dilynol. 

Mae Pobl Gyffredin yn ddatganiad byd-eang ac yn alwad i weithredu ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2023, gan annog pob un ohonom ni i fyfyrio ar y gorffennol ac ymdrechu i sicrhau dyfodol gwell. 

Rydyn ni'n gofyn i bobl gynnau cannwyll ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2023, ddydd Gwener 27 Ionawr, os yw'n ddiogel gwneud hynny.

Rhwng 1941 ac 1945, ceisiodd y Natsïaid ladd holl Iddewon Ewrop. Caiff yr ymgais systematig wedi'i gynllunio yma i lofruddio pobl Iddewig ei adnabod fel yr Holocost. 

Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig wedi marw mewn getoau a gwersylloedd difa, neu wedi'u lladd drwy gael eu saethu. 

Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost: https://www.hmd.org.uk/what-is-holocaust-memorial-day/this-years-theme/

Cafodd dros 1.1 miliwn o bobl eu llofruddio yn Auschwitz-Birkenau yn unig, gyda thros 90 y cant o'r rheiny'n Iddewon.    

Wedi ei bostio ar 27/01/2023