Bydd y Cyngor yn sefydlu cynllun 'Grant Cymunedol Rhondda Cynon Taf' i ddarparu gwerth £4.3 miliwn o Gyllid Ffyniant Gyffredin ar gyfer prosiectau cymunedol, a bydd yn gwahodd grwpiau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i wneud cais gan ddefnyddio dull dau gam.
Yn eu cyfarfod ddydd Llun, 23 Ionawr, aeth Aelodau o'r Cabinet ati i ystyried sut y bydd y Cyngor yn darparu cynllun grant cymunedol gan ddefnyddio'i ddyraniad lleol o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael i bob Cyngor, i’w dyrannu erbyn 31 Mawrth, 2025.
Cynigiodd swyddogion sefydlu grant cymunedol sy'n gwahodd ceisiadau mewn proses gystadleuol, agored a thryloyw, a chytunodd y Cabinet ar hyn ddydd Llun. Bydd y grant yn cynnwys cyllid refeniw a swm bach o arian cyfalaf i'w ddosbarthu i brosiectau cymwys.
Bydd y cynllun grant cymunedol yn canolbwyntio ar gefnogi cymunedau i leihau costau byw (gan gynnwys effeithlonrwydd ynni), a mynd i'r afael â thlodi tanwydd neu newid yn yr hinsawdd.
O ran rhai o'r egwyddorion arweiniol ar gyfer ceisiadau, rhaid i'r prosiectau fod o fudd i'r gymuned gyfan, rhaid iddyn nhw gael yr effaith orau bosibl, a chael eu cyflawni drwy weithio ar y cyd, a dangos eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau strategol lleol a chenedlaethol. Dylen nhw hefyd geisio cyfleoedd arian cyfatebol ychwanegol lle bynnag y bo modd.
Mae dull dau gam bellach wedi’i gytuno ar gyfer dosbarthu’r grant. Bydd ceisiadau am gyllid refeniw yn cael eu derbyn yn ystod y cam cyntaf ym mis Chwefror 2023. Bydd y cyllid yma ar gyfer prosiectau lefel is gwerth rhwng £1,000 a £14,999, a bydd angen eu cyflawni erbyn 31 Mawrth, 2023.
Bydd dwy ffenestr ar gyfer ceisiadau'r ail gam – mis Mawrth ac Ebrill 2023, a mis Ionawr a Chwefror 2024. Bydd hyn yn dyrannu gweddill cyllid y grant cymunedol ar gyfer prosiectau i'w cyflawni erbyn 31 Mawrth, 2025.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: “Mae’r Cyngor wedi nodi gwerth £4.3 miliwn o gyllid o’i ddyraniad cyffredinol o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn helpu cymunedau, ac mae’r Cabinet bellach wedi cytuno i greu grant cymunedol newydd wrth wraidd y broses yma. Bydd modd i grwpiau lleol, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau, a bydd y Cyngor yn eu hystyried. Bydd y grant yn cynnig hyd at £14,999 ar y lefel is, a hyd at £200,000 ar y lefel uwch.
“Byddwn ni'n canolbwyntio ar brosiectau sy’n anelu at leihau costau byw, gwella effeithlonrwydd ynni, lleihau newid yn yr hinsawdd neu fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Rhaid i geisiadau llwyddiannus ddangos sut y bydd deilliant cadarnhaol i'r gymuned yn cael ei gyflawni. Rwy’n edrych ymlaen at weld y ceisiadau cyntaf yn dod i law yng ngham un, a fydd yn agor ym mis Chwefror 2023. Bydd cam dau wedyn yn dilyn yn ystod mis Mawrth, gyda ffenestr derfynol ar gyfer ceisiadau yn gynnar yn 2024.
“Yn ystod cyfarfod dydd Llun, aeth y Cabinet ati i drafod argymhelliad swyddogion i sefydlu grant newydd. Cytunodd yr Aelodau fod gwahodd ceisiadau ar gyfer grant cymunedol newydd yn ddull gwell a mwy tryloyw o ymdrin â'r broses yma. Bydd hyn yn ein galluogi i ddosbarthu cyllid y gronfa a gweithio gyda grwpiau lleol mewn ffordd sy'n haws ei rheoli.
“Dyma gyfle cyffrous i grwpiau lleol gael mynediad at gyllid sylweddol er budd eu cymunedau. Bydd y Cyngor yn rhannu gwybodaeth yn y man am sut i gyflwyno cais am grant cymunedol ar gyfer prosiect yn ystod cam un, yn ogystal â rhagor o fanylion am feini prawf y cais.”
Mae Grant Cymunedol Rhondda Cynon Taf wedi derbyn £4.3 miliwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yma.
Wedi ei bostio ar 26/01/23