Gwaith Trafnidiaeth Cymru yng Ngorsaf Aberdâr
Mae gwaith datblygu pellach tuag at ymestyn y gwasanaeth trenau o Aberdâr i Hirwaun ar y gweill, wedi i'r Cyngor sicrhau cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau £239,633 i ariannu astudiaethau pellach tuag at gyflawni prosiect sylweddol Metro Plus, fydd yn ategu'r gwaith sy’n mynd rhagddo o gyflwyno Metro De Cymru a fydd yn golygu bydd pedwar trên yr awr yn gwasanaethu Aberdâr. Roedd gwaith blaenorol ym mhroses arfarnu'r prosiect (sydd ar hyn o bryd ar Gam 2 Achos Busnes Amlinellol Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru), yn ystyried dau opsiwn ar gyfer y prosiect, gan nodi opsiwn a oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer datblygu.
Byddai'r opsiwn sy'n cael ei ffafrio yn ymestyn y gwasanaeth trenau o'r orsaf drenau presennol yn Aberdâr i Hirwaun, drwy ddarparu tair gorsaf newydd yn Llwydcoed, Heol yr Orsaf, Hirwaun/Heol Penyard a Glofa'r Tŵr, Hirwaun.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rheoli'r prosiect a bydd y cyllid diweddaraf yn golygu y bydd modd cwblhau gwahanol gamau gweithredu gan yr ymgynghorydd sydd wedi'i apwyntio, Atkins Global Ltd. Bydd y gwaith yma'n galluogi i Gam 3, Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (Achos Busnes Llawn) gael ei gynnal yn 2023/24.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch fod y Cyngor wedi sicrhau £239,633 o gyllid yn llwyddiannus ar gyfer cam nesaf datblygiad y prosiect Metro Plus, sy'n estyniad sylweddol i'r gwasanaeth trenau o Aberdâr i Hirwaun. Mae'n brosiect cyffrous sy'n cael ei gefnogi gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ategu cyflawni Metro De Cymru – ac mae'n cael ei ddatblygu gan y Cyngor a Thrafnidiaeth Cymru.
"Bydd y Metro'n dod â buddion enfawr i gymunedau lleol yn Rhondda Cynon Taf. Bydd yn trydaneiddio oddeutu 170 cilomedr o'r cledrau o amgylch rhwydwaith rheilffyrdd De Ddwyrain Cymru, gan alluogi i drenau cyflym wasanaethu o 2024. Er enghraifft, bydd y trenau yma'n gwasanaethu pedair gwaith yr awr o Aberdâr a Threherbert, a 12 gwaith yr awr rhwng Pontypridd a Chaerdydd. Bydd y trenau, gorsafoedd rheilffordd a'r systemau signalau'n cael eu huwchraddio, a bydd depo gwerth miliynau o bunnoedd i wasanaethu'r trenau yn cael ei adeiladu yn Rhondda Cynon Taf yn Ffynnon Taf.
"Mae estyniad Aberdâr i Hirwaun yn gynllun Metro Plus gyda'r bwriad o ategu darpariaeth y Metro. Y llynedd, roedd proses gwerthuso'r prosiect wedi nodi opsiwn oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer ei ddatblygu – ymestyn rheilffordd Aberdâr gyda thair gorsaf newydd. Roedd y Cyngor hefyd wedi caffael safle'r hen ffatri ieir ger Llwydcoed yn 2021, ac mae'n parhau i archwilio opsiynau cyllid ar gyfer arhosfa orsaf, maes parcio a theithio a datblygiad unedau busnes modern yn y safle.
"Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos â Thrafnidiaeth Cymru a'r ymgynghorydd sydd wedi'i benodi, Atkins dros yr wythnosau a misoedd sydd i ddod, wrth i ddatblygiadau pellach weithio tuag at gwblhau'r Achos Busnes Amlinellol – gyda'r bwriad o fynd ymlaen i'r Achos Busnes Lawn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf."
Wedi ei bostio ar 30/01/23