Bydd Rhybudd Tywydd Melyn arall mewn grym ar gyfer glaw dros nos (10pm nos Wener, 13 Ionawr tan 12pm ddydd Sadwrn, 14 Ionawr). Rydyn ni'n cynghori trigolion i gymryd mesurau amddiffynnol ble mae modd, gan gynnwys gosod llifddorau ble maen nhw wedi’u darparu gan yr Awdurdod Lleol.
Mae'r Rhybudd Tywydd diweddaraf yn dilyn cyfnod gwlyb iawn dros y dyddiau a’r wythnosau diwethaf, ble mae wedi bwrw glaw yn gyson. Mae hyn wedi golygu bod y tir wedi bod yn wlyb dros ben, sy wedi arwain at broblemau dros y 24 awr ddiwethaf. Rydyn ni'n disgwyl i'r rhan fwyaf o'r glaw gwympo yn ystod y nos.
Rydyn ni'n cynghori gyrwyr i yrru yn unol â'r amodau ac i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith.
Mae adrannau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor eisoes wedi cymryd camau rhagweithiol drwy wirio ceuffosydd penodol. Bydd staff hefyd yn monitro lefelau dŵr ym mhob cwlfert ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol a bydd staff yn y ganolfan rheoli brys unwaith eto yn ystod cyfnod y Rhybudd Tywydd. Mae criwiau wedi bod yn gweithio'n ddiflino heddiw a ddoe er mwyn lliniaru problemau a chymryd ystod o fesurau rhagweithiol. Bydd criwiau unwaith eto'n gweithio drwy gydol y nos.
Lle bo'n bosibl ac yn ddiogel i wneud, gofynnir hefyd i drigolion a busnesau helpu i leihau'r perygl o lifogydd mewn mannau lleol. Gofynnir iddyn nhw wneud y pethau bychain, megis cael gwared ar ddail sydd wedi cwympo a chlirio malurion eraill o ddraeniau preifat ac eiddo, gan fod y rhain, gan amlaf, yn arwain at rwystro draeniau a rhigolau.
Os oes gyda chi unrhyw broblemau, ffoniwch rif argyfwng tu allan i oriau y Cyngor ar 01443 425011. Hefyd, dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol Twitter a Facebook y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd.
Wedi ei bostio ar 13/01/2023