Cyn bo hir bydd y Cyngor yn dechrau ar gynllun yn Nhrehafod i atgyweirio rhannau o wal gynnal Parc Treftadaeth Cwm Rhondda sydd wedi'u difrodi. Bydd cam cyntaf y gwaith yn dechrau ar Heol Trehafod dydd Llun.
Mae dau gam i'r cynllun. Bydd y cam cyntaf yn dechrau ddydd Llun, 6 Chwefror, a’r ail yn dilyn yn syth – mae'n cael ei amcangyfrif ar hyn o bryd y bydd yn dechrau ym mis Mawrth 2023. Mae angen gwaith atgyweirio i sawl rhan o'r wal sydd wedi'u difrodi dros amser. Bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn parhau ar agor yn ôl yr arfer drwy gydol y gwaith, a bydd modd mynd i mewn ac allan o'r parc yn ôl yr arfer.
Cam Un - atgyweirio'r wal gynnal ger Heol Trehafod dros gyfnod o chwe wythnos. Bydd y gwaith yn cynnwys ailbwyntio rhannau o'r wal yn ogystal ag ailadeiladu rhan fechan o'r wal â gwaith maen. Bydd y gwaith yma'n gofyn am gau lôn a defnyddio goleuadau traffig dwy ffordd – rydyn ni'n amcangyfrif y bydd angen y rhain am y pedair wythnos gyntaf.
Mae trigolion lleol wedi derbyn llythyr gan y Cyngor sy’n egluro’r gwaith a rhoi gwybod am yr angen i barcio yn rhywle arall pan fydd y goleuadau traffig yn cael eu defnyddio.
Cam Dau - mae hyn yn cynnwys gwaith atgyweirio cerrig sylweddol i’r rhan o’r wal yn y lôn gefn oddi ar y brif ffordd (lle mae Heol Trehafod yn cwrdd â Heol Coedcae, gyferbyn â’r troad i gyfeiriad Teras Cadwgan). Bydd hyn yn para tua saith wythnos.
Bydd hyn yn cynnwys ychydig o fannau bach lle bydd y strwythur yn cael ei ailbwyntio, a gwaith ailadeiladu mawr ar draws 40 metr o'r wal - hyd at uchder o 2.5 metr. Bydd hyn yn gofyn am gau'r lôn gefn, gan amharu cyn lleied â phosibl ar y ffordd fawr.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd y gwaith yma i wal gynnal Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn Nhrehafod yn atgyweirio sawl rhan o’r strwythur sydd wedi’u difrodi dros amser. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn dau gam er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl – gyda’r gwaith cyntaf i’r rhan agosaf at Heol Trehafod, yn dechrau ddydd Llun, 6 Chwefror.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyllid i gynnal ac atgyweirio strwythurau allweddol sy’n cefnogi ein rhwydwaith ffyrdd, ac mae cynllun Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn rhan o gronfa o barciau a phrosiectau cefn gwlad yn y rhaglen gyfalaf bresennol.
“Mae hyn ochr yn ochr â’r £5.65 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer strwythurau priffyrdd, gan sicrhau bod gwaith atgyweirio i bont gantilifer Nant Cwm-parc yn Nhreorci a cham un o’r gwaith atgyweirio i Bont Imperial yn Porth wedi’u cwblhau eleni. Yn ogystal, mae cynlluniau fel ailadeiladu pont droed Stryd y Nant yn Ystrad yn dirwyn i ben. Mae hyn yn ychwanegol i'r cyllid gwerth £6.4 miliwn a gafodd ei neilltuo yn 2022/23 ar gyfer atgyweirio strwythurau yn dilyn Storm Dennis.
“Bydd y gwaith sydd i ddod yn Nhrehafod angen goleuadau traffig dros dro dwy ffordd am y pedair wythnos gyntaf, er mwyn sicrhau diogelwch i’r gymuned a’r gweithlu. Bydd y cynllun wedyn yn symud ymlaen i gam dau, ac er bod hyn yn cynnwys ailadeiladu llawer mwy o'r wal, mae'n debygol y bydd ei leoliad yn y lôn gefn yn achosi llai o aflonyddwch. Hoffwn ddiolch i drigolion ymlaen llaw am eu cydweithrediad, wrth i ni geisio cwblhau’r cynllun atgyweirio yma mor gyflym ac effeithlon â phosibl.”
Wedi ei bostio ar 30/01/2023