Bydd gwaith gwella mesurau draenio dŵr wyneb yn cychwyn ar safle Tomen Wattstown yn ystod y diwrnodau nesaf, yn rhan o gynllun gwaith cynnal a chadw cyfredol y Cyngor ar gyfer tomenni glo ledled y Fwrdeistref Sirol.
Bydd y gwaith sydd eisoes wedi'i gynllunio yn cychwyn ddydd Llun, 9 Ionawr 2023, a hynny'n amodol ar drefniadau mynediad. Nid oes disgwyl i'r gwaith achosi unrhyw aflonyddwch i drigolion a fydd dim angen mesurau rheoli traffig lleol.
Mae'n bosibl y bydd trigolion wedi sylwi ar gynnydd mewn gweithgarwch ar safle Tomen Wattstown yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth i beirianwyr y Cyngor; yr Awdurdod Glo; ac Ymgynghorwyr y Cyngor, Redstart, fynd ati i fonitro tir sy'n symud ar ran fach o'r safle.
Bydd yr ardal yma'n parhau i gael ei hasesu a'i harchwilio'n fanwl yn rhan o drefniadau archwilio cadarn y Cyngor. Yn ogystal â hyn, bydd gwaith arolygu annibynnol yn cael ei gynnal gan yr Awdurdod Glo, a bydd y mesurau monitro cynhwysfawr sydd eisoes ar waith yn cael eu hehangu er mwyn tawelu meddwl trigolion lleol.
Mae systemau draenio dros y tir dros dro wedi cael eu gosod a bydd gwaith pellach yn dechrau'r wythnos nesaf i wella draenio yn yr ardal yma.
Yn rhan o'r pecyn yma o waith cynnal a chadw, bydd gwaith sydd eisoes wedi'i gynllunio yn cychwyn ar safle sawl tomen ledled y Fwrdeistref Sirol dros yr wythnosau nesaf.
Mae gwaith paratoi ar gyfer Cam 4 o gynllun adfer Tomen Tylorstown eisoes wedi cychwyn, ac mae contractwr y Cyngor ar gyfer y cynllun yma, sef Prichard's Contracting, wrthi'n cynnal gwaith tirfesur, gosod systemau monitro a sefydlu ffensys cyn cychwyn Cam 4 yn y Gwanwyn eleni.
Bydd cam olaf y gwaith yn cynnwys:
- Symud tua 195,000m3 o ddeunydd o domen uchaf Llanwynno - gan gynnwys gwaith draenio a thirlunio.
- Ail-broffilio'r domen uchaf gan ddefnyddio 35,000m3 o ddeunydd i greu tirlun gwastad - gan gynnwys gwaith draenio a thirlunio.
- Symud tua 160,000m3 o ddeunydd ar hyd tramffordd sydd ddim yn cael ei defnyddio i'r safle derbynnydd hysbys. Mae'r safle yma i'r gogledd o 'Old Smokey' sydd yn rhan o safle ehangach tomen Tylorstown.
- Ehangu'r dramffordd bresennol er mwyn creu llwybr i gludo nwyddau i'r safle derbynnydd a chaniatáu mynediad i lorïau a pheiriannau.
- Gwaith ail-broffilio, draenio a thirlunio'r safle derbynnydd.
Wedi ei bostio ar 05/01/2023