Mae nifer o Rybuddion Tywydd wedi bod dros y tair wythnos diwethaf ac mae RhCT, fel llawer o Gymru, wedi profi cyfnod di-baid o law. Mae cyfanswm cyfartalog y glaw sydd wedi disgyn yn ystod pythefnos cyntaf mis Ionawr yn cyfateb i un a hanner y cyfartaledd arferol ar gyfer Ionawr cyfan. Fe wnaeth ardaloedd yng Nghwm Cynon a Chwm Rhondda gofnodi 100mm o law mewn un noson.
Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod tua 50 o eiddo wedi dioddef llifogydd dros yr wythnos diwethaf. Mae'r rhain wedi bod yn gymysgedd o eiddo masnachol a phreswyl, ac roedd tua hanner y cyfanswm yma oherwydd llifogydd afonydd. Mae gwybodaeth am yr eiddo sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd wedi’u trosglwyddo i Gyfoeth Naturiol Cymru, sef yr Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer afonydd.
Er ein bod ni’n hynod bryderus am yr eiddo sy'n dioddef llifogydd, mae'n bwysig nodi bod y miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad mewn cwlferi a seilwaith draenio wedi golygu nad yw’r un o’r cynlluniau a gafodd eu huwchraddio ers Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 wedi methu.
Gyda thros 100 o gynlluniau wedi'u cynnal ledled RhCT ers 2020, mae'r tywydd rydyn ni wedi'i brofi yn ystod yr wythnosau diwethaf yn atgyfnerthu ein cred bod angen i'r gwaith hanfodol yma i uwchraddio'r cwlferi a'r cyrsiau dŵr barhau dros y blynyddoedd nesaf, a hynny wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd ddwysáu.
Mae llawer mwy o gwlferi a chyrsiau dŵr angen cael eu huwchraddio, a bydd y Cyngor yr wythnos yma yn cyflwyno cynigion yn yr ystod o £8 miliwn i Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r Cyngor wedi’i argyhoeddi bod yn rhaid i'r gwaith barhau a chyflymu i amddiffyn cynifer o eiddo â phosibl.
Drwy gydol cyfnod y Rhybuddion Tywydd, roedd staff yng Nghanolfan Rheoli Argyfyngau'r Cyngor, ac roedd criwiau ac adnoddau ychwanegol wrth gefn er mwyn ymateb i faterion wrth iddyn nhw godi.
Mae'r wythnos ddiwethaf hefyd wedi gweld nifer o briffyrdd yn dioddef llifogydd. Unwaith yn rhagor, ni wnaeth yr ardaloedd sydd wedi elwa o gyllid Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru ddioddef lifogydd. Fodd bynnag, fe brofodd llawer o ardaloedd eraill lifogydd a bydd y Cyngor yn mynd i'r afael â hyn ar unwaith.
Un enghraifft yw ffordd osgoi Trehafod, a orlifodd oherwydd bod y dŵr wedi gorlifo o gwlferi wrth ymyl y rheilffordd ar dir sy'n berchen i Drafnidiaeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi bod yn cysylltu ac yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i fynd i'r afael â'r mater yma ar frys.
Enghraifft arall yw'r ffordd gerllaw siop ASDA yn Llwynypia, a orlifodd dros y penwythnos. Mae’n debyg mai'r rheswm dros hyn yw bod dŵr o weithfeydd mwyngloddio yn dod allan o'r ffordd a'r wal ger y briffordd. Unwaith yn rhagor, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r Awdurdod Glo i fynd i'r afael â'r broblem barhaus yma.
Yn ogystal â'r enghreifftiau yma, mae nifer o leoliadau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol ble bydd yn rhaid i'r Cyngor barhau i uwchraddio a buddsoddi yn ei rwydwaith seilwaith i leihau'r perygl o lifogydd cymaint â phosibl.
Wedi ei bostio ar 17/01/2023