Yn dilyn cyfnod o dywydd gwlyb a garw, a gyda'r Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi Rhybudd Tywydd Melyn arall am law trwm ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, mae'r Cyngor yn ymgymryd â nifer o fesurau rhagweithiol. Bydd y Rhybudd Tywydd Melyn ar waith rhwng 9pm heddiw (ddydd Mercher, 11 Ionawr) a 5pm yfory (ddydd Iau, 12 Ionawr).
Mae'r rhagolygon wedi nodi bod posibilrwydd y bydd y Rhybudd Melyn presennol yn newid i fod yn Rhybudd Oren, a bydd y Cyngor yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth os daw hyn yn wir.
Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn agor ei Ganolfan Rheoli Argyfyngau yn ystod cyfnod y Rhybudd Tywydd i fonitro prif geuffosydd o bell. Mae gyda ni hefyd griwiau ac adnoddau ychwanegol i ddelio ag unrhyw faterion a allai godi. Mae ceuffosydd a draeniau'n parhau i gael eu monitro'n rhagweithiol a bydd criwiau'n clirio malurion ohonyn nhw os oes angen.
Gofynnir i drigolion barhau i fod yn wyliadwrus drwy gydol cyfnod y Rhybudd Tywydd a rhoi gwybod am unrhyw bryder drwy ffonio rhif argyfwng y tu allan i oriau'r Cyngor ar 01443 425011.
Lle bo'n bosibl ac yn ddiogel i wneud, gofynnir hefyd i drigolion a busnesau helpu i leihau'r perygl o lifogydd mewn mannau lleol. Gofynnir iddyn nhw wneud y pethau bychain, megis cael gwared ar ddail sydd wedi cwympo a chlirio malurion eraill o ddraeniau preifat ac eiddo, gan fod y rhain, gan amlaf, yn arwain at rwystro draeniau a rhigolau.
Wedi ei bostio ar 11/01/2023