Skip to main content

Plac Glas ar gyfer Caradog

Caradog unveiling re-sized1

Mae Plac Glas wedi'i ddadorchuddio yn Stryd y Llys, Pontypridd er cof am Griffith Rhys "Caradog" Jones, fu’n treulio ei flynyddoedd olaf yn byw ar y stryd yma. 

Cafodd Caradog ei eni yn Nhrecynon yn 1834, a cherddoriaeth oedd ei angerdd.  Ei lwyddiant mwyaf oedd arwain y côr adnabyddus 'Y Côr Mawr' (South Wales Choral Union), a oedd yn cynnwys dros 500 o leisiau, i lwyddiant yng Nghwpan Her Crystal Palace yn 1872 ac 1873. 

Caradog oedd un o arweinwyr corau mwyaf llwyddiannus yr Eisteddfod Genedlaethol, does dim dwywaith amdani, ac roedd ei gyfraniad i ddiwylliant Cymru yn aruthrol.  Wrth iddo ennill cystadlaethau byd enwog, roedd ei gyfraniad wedi rhoi Cymru ar y map gan arddangos pa mor gerddorol yw’r Cymry i'r byd.  Mae gwaddol Caradog yn parhau - mae ysgolion cynradd wedi'u henwi ar ei ôl ac mae ei gerflun yn sefyll yn falch yn Sgwâr Fictoria, Aberdâr. 

Meddai'r Cynghorydd Wendy Lewis, Maer Rhondda Cynon Taf:

Braint oedd dadorchuddio Plac Glas er cof am Caradog. O'i gerflun yn Sgwâr Fictoria, Aberdâr i'r corau sy'n ymarfer a pherfformio yn y Fwrdeistref Sirol bob wythnos, mae modd gweld a chlywed gwaddol Caradog ledled Rhondda Cynon Taf.  Diolch i'w gyfraniad i gerddoriaeth yma yng Nghymru, roedd y byd yn effro i ddoniau cerddorol Cymru, ac fe gafodd ein gwlad ei hadnabod fel "Gwlad y Gân".

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y cynllun Placiau Glas neu os ydych chi eisiau cael gwybod am sut i enwebu person ar gyfer y cynllun, e-bostiwch GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk

 

Wedi ei bostio ar 13/07/23