Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar gynigion i gyflwyno cynlluniau teithio â chymhorthdal ar fysiau ledled Rhondda Cynon Taf yn ystod cyfnodau allweddol o flwyddyn ariannol 2023/24.
Cytunwyd ar uchafswm o £1 am bob tocyn bws un ffordd ar gyfer bob taith rhwng 24 Gorffennaf a 3 Medi (yn gynhwysol) ac, yn dibynnu ar lwyddiant y cynllun yma, mae'n bosibl y bydd y cymhorthdal yma'n cael ei roi ar waith eto rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 31 Rhagfyr 2023 (yn gynhwysol).
Yn ogystal â hynny, cymeradwyodd y Cabinet hefyd gyflwyniad o gynllun peilot teithio ar fysiau 7 diwrnod yr wythnos am flwyddyn ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg ôl-16 oed sydd â thocyn tymor bysiau cyhoeddus i fynychu'r ysgol neu'r coleg rhwng dydd Llun 4 Medi a diwedd y flwyddyn academaidd 2023/24 berthnasol.
Yn gynharach eleni, cytunodd Aelodau'r Cabinet i ddyrannu tua £500,000 o gyllid a gafwyd o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin tuag at gynllun arbrofol a oedd yn golygu bod pob taith ar fysiau yn rhad ac am ddim yn RhCT yn ystod mis Mawrth.
Dangosodd adolygiad o ganlyniadau’r cynllun gynnydd cyfartalog o 35% yn y nifer a ddefnyddiodd y gwasanaethau a’r gweithredwyr o gymharu â niferoedd Chwefror 2023. Nodwyd hefyd bod yr holl weithredwyr wedi nodi cynnydd sylweddol mewn teithiau gan bobl ifainc ledled y Sir dros y cyfnod prawf. Dangosodd data dilynol Ebrill 2023 fod y niferoedd sy'n teithio ar fysiau wedi cynnal cynnydd o 7%, gan dynnu sylw at y ffaith bod yna awydd i’r cyhoedd fanteisio ar gynnig gwasanaeth bysiau sy'n fforddiadwy a dibynadwy.
Yn dilyn ymlaen o lwyddiant y cynllun peilot teithio am ddim, mae’r Cabinet bellach wedi cytuno i ddyrannu hyd at £985,000 (amcan) pellach o arian grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin i symud y cynlluniau penodol yn eu blaenau – ceir manylion pellach isod.
Cynllun Uchafswm o £1 am Docyn Bws Un Ffordd
Yn dilyn penderfyniad y Cabinet, bydd uchafswm o £1 am docyn bws un ffordd ar gyfer yr holl deithiau sy’n cychwyn ac yn dod i ben o fewn ffiniau Sir Rhondda Cynon Taf ar waith rhwng dydd Llun, 24 Gorffennaf a dydd Sul, 3 Medi 2023 (yn gynhwysol). Fydd dim cyfyngiadau amser ar y cynllun, felly byddai teithio am bris gostyngol ar gael o’r gwasanaeth cyntaf i’r gwasanaeth olaf bob dydd ar yr holl wasanaethau bws rheolaidd (waeth pwy yw’r gweithredwr). Bydd gwasanaethau sy'n dechrau neu'n terfynu y tu allan i ffiniau'r Sir yn cael eu heithrio a bydd angen talu'r pris llawn arferol am docyn.
Yn amodol ar ddeilliannau'r cynllun Gwyliau Haf yr Ysgol, bydd modd cyflwyno’r cynllun eto ym mis Rhagfyr (1 – 31 Rhagfyr yn gynhwysol) i helpu i gefnogi Siopa'n Lleol yng nghanol ein trefi.
Teithio ar Fysiau 7-Diwrnod yr wythnos i Ddisgyblion Ysgol/ Myfyrwyr Coleg
Cytunodd Aelodau’r Cabinet hefyd i gyflwyno cynllun peilot teithio ar fysiau 7 diwrnod yr wythnos am flwyddyn ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr coleg ôl-16 oed fydd â thocyn tymor bysiau cyhoeddus i fynychu'r ysgol neu'r coleg rhwng dydd Llun, 4 Medi a diwedd y flwyddyn academaidd berthnasol 2023/24, yn unol â Pholisi Cludiant Ysgolion y Cyngor a thelerau cyllid grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Ar gyfer y cynllun yma, fydd dim modd trosglwyddo'r cludiant am ddim ar draws amrywiol weithredwyr, a bydd disgyblion/myfyrwyr ond yn gallu teithio ar lwybrau sy'n cael eu gweithredu gan y cwmni bysiau sydd wedi'i neilltuo i'r disgybl/myfyriwr ar gyfer eu taith ddyddiol i’r ysgol neu goleg.
Bydd modd i ddisgyblion/myfyrwyr deithio am ddim ar yr holl wasanaethau bws rheolaidd sy'n dechrau neu'n terfynu yn RhCT gan eu gweithredwr priodol. Byddai gwasanaethau sy'n dechrau neu'n terfynu y tu allan i ffiniau'r Sir yn cael eu heithrio a bydd angen talu'r pris llawn arferol am docyn. Fydd dim cyfyngiadau o ran amser na diwrnodau, felly bydd modd iddyn nhw deithio am ddim gyda'u gweithredwr teithio priodol o'r gwasanaeth cyntaf i'r gwasanaeth olaf bob dydd. Dydy'r cynnig yma ddim ar gael i ddisgyblion neu fyfyrwyr sy'n cael eu cludo i'r ysgol neu'r coleg mewn unrhyw fodd heblaw trwy docyn tymor bysiau cyhoeddus sy'n cael ei ddarparu gan y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rwy'n falch bod y Cabinet wedi cytuno i roi mesurau pellach ar waith i hybu teithio â chymhorthdal ar fysiau ledled Rhondda Cynon Taf.
“Bydd y mesurau y cytunwyd arnyn nhw unwaith eto yn rhoi cymorth hanfodol i drigolion gydag effeithiau’r argyfwng costau byw, a bydd yn hanfodol wrth helpu trigolion a theuluoedd i arbed arian – o bosibl gannoedd o bunnoedd ar gludiant bysiau dros gyfnod gwyliau’r haf.
“Yn ogystal â hynny, mae’r cynlluniau’n cefnogi strategaethau trafnidiaeth a hinsawdd allweddol yn lleol ac yn genedlaethol, gan gynnwys Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 ac uchelgeisiau’r Cyngor i RCT fod yn garbon niwtral erbyn 2030, ymhlith eraill, wrth i ni geisio gwarchod yr amgylchedd mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd.
“Mae llawer o sylw wedi'i roi i'r anawsterau sy’n wynebu’r diwydiant gwasanaethau bysiau dros y misoedd diwethaf, yn enwedig gan fod effeithiau’r pandemig bellach yn glir. Mae'n hanfodol ein bod ni, lle bo modd, yn gallu cefnogi system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn hawdd i'w defnyddio, fel ffordd o annog newid moddol hirdymor o deithio mewn ceir preifat i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus carbon is sy'n gynaliadwy.
“Rhan allweddol o’r mentrau hyn fydd darparu cymorth i ddisgyblion/myfyrwyr ôl-16 oed, a thrwy annog disgyblion/myfyrwyr ôl-16 oed i deithio ar fysiau ar gyfer ystod ehangach o deithiau y tu allan i oriau'r ysgol, rhagwelir y byddan nhw’n fwy tebygol o barhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol, ac felly ddim yn prynu car preifat yn awtomatig.
“Wrth ddisgwyl am ddeilliannau’r cynllun â chymhorthdal uchafswm o £1 am bob tocyn bws un ffordd dros gyfnod gwyliau’r haf a’r cyllid sydd ar gael, byddwn ni'n ystyried cyflwyno ail gyfnod o’r cynllun yma dros fis Rhagfyr, gan ystyried opsiynau pellach ar gyfer 2024/25 unwaith y bydd dyraniadau cyllid grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y dyfodol yn dod i law.”
Wedi ei bostio ar 18/07/23