Mae gwyliau'r haf wedi dechrau ac os ydych chi'n chwilio am rywbeth i'w wneud gyda'r teulu - dyma rai syniadau gwych!
Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnal llawer o achlysuron i blant drwy gydol yr Haf.
Yn ogystal â Thaith yr Aur Du ac arddangosiadau rhyngweithiol, bydd gweithgareddau AM DDIM i blant bob dydd o ddydd Mawrth, 1 Awst, gyda theithiau tywys arbennig ar ddydd Mawrth a dydd Gwener am 11am-12pm a 2pm-3pm.
Bydd gweithgareddau gwahanol yn cael eu cynnal bob wythnos felly bydd modd i chi ddod yn ôl tro ar ôl tro. Bydd llawer o grefftau yn ein gorsafoedd creu, cyfle i greu ffosilau a llawer yn rhagor, gan gynnwys:
- Gweithgareddau Pythefnos y Glowyr
- Darganfod dinosoriaid gan ddefnyddio ffosilau.
- Crefftau am ddim - dewch i greu helmed glöwr a chymryd rhan yn ein sesiwn creu canopi pabi.
Mae pob gweithgaredd gwyliau'r haf AM DDIM a does dim angen cadw lle - dewch yn llu!
Mae gweithgareddau eraill yn ystod gwyliau'r haf yn cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol a sesiynau gwisg ffansi i blant. Mae modd parcio am ddim ac mae yna gaffi gwych ar y safle sy'n cynnig bwyd i blant, te prynhawn (a choffi i oedolion!). Os yw'r gweithgareddau yma wedi'ch ysbrydoli chi, mae modd i chi fynd fyny grisiau i siop Craft of Hearts i brynu deunyddiau crefft neu i gadw lle ar gyfer sesiwn crefftau.
Beth am ymweld â ni a mwynhau'r hyn y mae'r atyniad gwych yma'n ei gynnig?
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn atyniad gwych ar gyfer teuluoedd, ysgolion a grwpiau. Mae ymwelwyr yn dod o bob rhan o'r byd i fwynhau Taith yr Aur Du a gwrando ar straeon y tywyswyr sydd wedi gweithio dan y ddaear.
Rydyn ni wedi cynnal nifer fawr o achlysuron i blant yn y lleoliad yma dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r calendr achlysuron yn cychwyn ym mis Ebrill bob blwyddyn gydag Achlysur Ŵy-a-Sbri. Rydyn ni'n dathlu Calan Gaeaf gydag achlysur Rhialtwch Calan Gaeaf ac wrth gwrs, bydd achlysur poblogaidd Ogof Siôn Corn yn ôl unwaith eto o ddiwedd mis Tachwedd tan Noswyl Nadolig.
Mae'r gweithgareddau am ddim yn ystod yr haf yn berffaith i deuluoedd sy'n chwilio am rywbeth i gadw'r plant yn brysur dros y gwyliau. Mae'r gweithgareddau'n newid bob wythnos felly mae modd dod yn ôl tro ar ôl tro yn ystod yr haf.
Mae Taith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, ar agor dydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 9am - 4.30pm.
Dilynwch dudalen Facebook @RhonddaHeritagePark i weld y newyddion diweddaraf am yr achlysuron sy'n cael eu cynnal dros yr haf.
Mae modd dod o hyd i wybodaeth am sut i gyrraedd y lleoliad a'r holl achlysuron sy'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, yma: www.parctreftadaethcwmrhondda.com
Wedi ei bostio ar 31/07/23