Bydd y cam cyntaf, sy'n rhan o bum cam i wella llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach, yn dechrau’r wythnos nesaf. Bydd y gwaith yn gwella'r llwybr cyfredol drwy ei wneud yn fwy llydan fel bod cerddwyr a beicwyr yn gallu rhannu'r llwybr.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid gwerth £3.43 miliwn gan y Gronfa Teithio Llesol yn 2023/24. Mae'r cyllid yn cynnwys £1.94 miliwn i gyfrannu at waith cam 1 a 2 ar y llwybr teithio llesol yn y Maerdy a Glynrhedynog - ynghyd â chyllid dyraniad craidd ychwanegol i gyfrannu at gam 3, 4 a 5 rhwng Glynrhedynog a Tylorstown.
Bydd cam 1 yn dechrau ddydd Llun, 10 Gorffennaf, a’r nod yw gwella'r llwybr cyfredol rhwng Cofeb Porth y Maerdy a phwynt i'r gogledd o'r ystad ddiwydiannol, ger yr hen lofa. Mae'r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths (Contractwyr) Ltd i gyflawni'r gwaith, sydd angen cael ei gwblhau erbyn diwedd yr hydref.
Mae'r gwaith yn cynnwys adnewyddu’r llwybr cyfredol, a’i droi yn llwybr beicio a cherdded 3 metr o led sy'n cydymffurfio â safonau teithio llesol. Bydd y llwybr ar gau yn ystod y gwaith er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Bydd llwybr amgen dros dro ar hyd yr ystad ddiwydiannol gyfagos gyfer cerddwyr a beicwyr.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rydw i'n falch bod cam cyntaf y gwaith i wella'r llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach yn dechrau cyn hir, gyda'r gwaith cyntaf yn cychwyn ar y rhan fwyaf ogleddol yn y Maerdy. Mae'r gwaith yn dechrau'n fuan ar ôl cyhoeddiad cyllid Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin, gyda'r Cyngor wedi sicrhau cyllid ar gyfer pum cam o waith yn Rhondda Fach.
"Bydd cam 1 yn gwella'r llwybr cyfredol gyferbyn â'r ystad ddiwydiannol, rhwng hen safle glofa'r Maerdy a'r gofeb gymunedol. Bydd camau gwaith y dyfodol ar hyd llwybr y Rhondda Fach yn gwella ardaloedd anffurfiol y llwybr, er mwyn darparu llwybrau teithio llesol pwrpasol sy'n cael eu defnyddio gan feicwyr a cherddwyr. Bydd y gwaith hefyd yn creu cysylltiadau cymunedol newydd yn lleoliad penodol.
"Mae annog pobl i deithio'n llesol drwy gerdded a beicio'n ddyddiol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor er mwyn gwella iechyd a lles ein trigolion ac brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth ariannol Llywodraeth Cymru, gyda'r Cyngor wedi sicrhau £3.43 miliwn o gyllid grant y flwyddyn yma i gyfrannu at gynlluniau lleol. Bydd y cyllid yn ein cynorthwyo ni i gyflawni gwelliannau i'r Llwybr Taith Taf yn y Trallwn, sefydlu llwybr teithio llesol ffurfiol trwy Gwm-bach, disodli Pont Glan-yr-Afon yn Llwydcoed, gwella cysylltiadau amrywiol ym Mhentre'r Eglwys, a datblygu cynlluniau allweddol yng Nghanol Trefi Aberdâr a Phontypridd.
"Bydd contractwr y Cyngor yn dechrau ar gam 1 y gwaith yn y Maerdy ar 10 Gorffennaf. Rhaid cau'r llwybr er mwyn cynnal y gwaith. Diolch i'n trigolion am eich cydweithrediad wrth i ni wella'r llwybrau teithio llesol. Mae disgwyl i'r ail gam ddechrau'n hwyrach y flwyddyn yma, gyda'r gwaith yn canolbwyntio ar y llwybr yng Nglynrhedynog."
Wedi ei bostio ar 07/07/23