Skip to main content

Cytuno ar gyllid i ddymchwel hen safle Cwm Coking

Mae aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo cytundeb fydd yn sicrhau cyllideb gwerth £8 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddymchwel a gwella hen safle gwaith mawr Cwm Coking ym Meddau a'i baratoi i gael ei ddatblygu yn y dyfodol.

Ddydd Llun, 17 Gorffennaf, cymeradwyodd y Cabinet gytundeb rhwng y Cyngor a Persimmon Plc Group gan sicrhau mynediad at gyllid arwyddocaol o Gronfa Hyfywedd Tai Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Byddwn ni'n defnyddio'r cyllid i ddymchwel yr hen safle a dihalogi’r tir er mwyn datgloi safle strategol sy'n rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol (LDP).

Roedd £35 miliwn ar gael gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i hwyluso gwaith datblygu mawr sydd wedi bod ar y gweill ers amser hir. Fyddai dim modd cynnal y gwaith yma heb ymyrraeth y sector gyhoeddus. Dyw rhai prosiectau ddim yn hyfywedd yn fasnachol oherwydd costau dihalogi tir. Cafodd 10 Cyngor y rhanbarth eu gwahodd i wneud cais am gyllid. 

Llwyddodd y Cyngor i sicrhau £11.554 miliwn i gyllido 3 phrosiect - Cwm Coking (£8 miliwn), hen ysbyty Aberdâr (£2.04 miliwn) a Nant y Wenallt/Maes Moss (£1.514 miliwn). Gallai'r cyllid yma arwain at adeiladu tua 1,000 o dai newydd.

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ddydd Llun, bydd y Cyngor yn llunio cytundeb gyda'r datblygwr er mwyn dyrannu cyllid a monitro cynnydd y gwaith. Daw hyn yn sgil cytundeb pellach â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i reoli'r grant ar gyfer cynllun Cwm Coking. Os na chaiff y datblygiad ei gwblhau, bydd rhaid i'r datblygwr ad-dalu'r holl gyllid.

Ychwanegodd adroddiad i’r Cabinet ddydd Llun bod y safle ym Meddau wedi bod yn destun ceisiadau cynllunio blaenorol, ond doedd y cynlluniau hynny heb ennyn unrhyw ddiddordeb a fyddai'n awgrymu y byddai'r gwaith datblygu yn mynd rhagddo. Byddai cyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn llenwi'r bwlch ariannol sydd wedi dod i'r amlwg mewn gwerthusiad annibynnol cadarn, sy'n wynebu datblygwyr wrth ddymchwel a dihalogi'r safle - mae'n rhaid gwneud hyn cyn ymgymryd â gwaith datblygu arwyddocaol.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Bydd penderfyniad y Cabinet yn galluogi'r Cyngor i ymgymryd â chytundeb â Persimmon i ddarparu cyllid gwerth £8 miliwn i ddymchwel a dihalogi safle Cwm Coking, sy'n safle mawr, strategol ym Meddau. Mae'r Cyngor wedi sicrhau traean o gyllid gwerth £35 miliwn sydd ar gael ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a phrosiect Cwm Coking yw'r datblygiad bydd yn elwa fwyaf.

"Dyma gyfle gwych, gan ein bod ni’n flaenorol dan yr argraff nad oedd y safle yn addas i'w ailddatblygu’n fasnachol. Mae'r safle wedi bod yn falltod ar y gymuned ers blynyddoedd, ac mae llenwi'r bwlch cyllid i sicrhau bod y safle'n barod i'w ailddatblygu yn garreg-filltir fawr wrth geisio sicrhau ein bod ni'n dechrau defnyddio'r safle eto - fel sydd wedi'i nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol. Dydy'r cyllid ddim yn peri llawer o risg i'r Cyngor chwaith gan fod mecanweithiau yn eu lle sy'n rhoi cyfrifoldeb ar y datblygwr i ad-dalu unrhyw gyllid os na chaiff y safle ei ailddatblygu o fewn yr amserlen wedi’i chytuno.

"Hoffwn sicrhau bod trigolion lleol yn deall y byddwn ni'n ystyried bioamrywiaeth y safle wrth ymgymryd â'r gwaith - o'r gwaith cychwynnol i adfer y safle i'r gwaith datblygu tai. Mae hefyd yn bwysig nodi y bydd modd i'r gymuned leol ddweud ei dweud ynglŷn â phwyntiau allweddol y broses wrth ddatblygu yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltiad arwyddocaol gan y gymuned a rhanddeiliaid gan y datblygwr cyn cyflwyno cais cynllunio, ac ymgynghoriad cynhwysol ar ôl derbyn cais ffurfiol.

"Mae swyddogion nawr yn gobeithio parhau â'r cytundeb â'r datblygwr i sicrhau cyllid gwerth £8 miliwn, a byddan nhw'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gerrig milltir allweddol wrth arwain at y gwaith dymchwel."

Wedi ei bostio ar 20/07/2023