Bydd cam nesaf y gwaith o amnewid Pont Castle Inn ym mhentref Trefforest yn dechrau ar 22 Gorffennaf a bydd Heol Caerdydd ar gau. Bydd y ffordd ar gau yn ystod gwyliau'r haf er mwyn lleihau aflonyddwch. Bydd bws gwennol RHAD AC AM DDIM yn gweithredu'n lleol.
Darparodd y bont droed gyswllt lleol allweddol dros Afon Taf rhwng Stryd yr Afon ym mhentref Trefforest a Heol Caerdydd yng Nglyn-taf, ond cafodd ei difrodi’n ddifrifol yn ystod Storm Ciara a Storm Dennis. Mae’r bont wedi bod ar gau ers 2020 wrth i gynllun amnewid cael ei baratoi, mae'r strwythur wedi cael ei ddymchwel yn ystod yr wythnosau diwethaf, er mwyn paratoi ar gyfer gosod y bont droed newydd.
Mae ategweithiau'r bont yn cael eu paratoi ar hyn o bryd yn barod i'r bont i gael ei chodi a'i rhoi yn ei lle yn ystod gwyliau'r haf. Yna, bydd cam olaf y gwaith yn mynd rhagddo yn ystod mis Medi, gan gynnwys dychwelyd cysylltiad carthffos i groesfan yr afon a gorffen y ffyrdd dynesu at y bont newydd.
Bydd y bont fwa sengl tua 35 metr o hyd a 3.5 metr o led ar gyfer cerddwyr a beicwyr, tra bydd pibell garthffos yn cael ei gosod o dan y bont. Mae'r strwythur wedi'i gynllunio i gyflwyno gwelliant enfawr i amddiffynfeydd rhag llifogydd, ar ôl iddo ddod i'r amlwg bod yr hen bont, i bob pwrpas, wedi gweithredu fel rhwystr yn yr afon ac achosi llifogydd yn ystod Storm Dennis. Ar y cyd â gwaith cysylltiedig ar lan yr afon, bydd y bont newydd yn lleihau'r perygl llifogydd lleol yn fawr.
Mae modd ailddefnyddio rhai elfennau o’r hen bont yn y strwythur newydd – er enghraifft, y gwaith carreg gwreiddiol ar waliau’r bont. Bydd bwrdd gwybodaeth parhaol sy’n dangos cofnod hanesyddol y bont hefyd yn cael ei osod yn lleol
Cau ffordd er mwyn gosod y bont (yn dechrau 22 Gorffennaf)
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd y contractwr Knights Brown yn dechrau ar gam nesaf y gwaith i godi’r bont o 7.30am ddydd Sadwrn, 22 Gorffennaf. Bydd y ffordd yn cael ei chau dros wyliau'r haf, a bydd ar gau tan 3 Medi.
Yn rhan o'r cynllun, bydd angen cau’r rhan o Heol Caerdydd sydd agosaf i’r bont am gyfnod y gwaith - o ffin ddeheuol tŷ rhif 27 tua'r gogledd am bellter o 130 metr. Mae'r ffyrdd a fydd ar gau hefyd yn cynnwys y lonydd tua'r gogledd a thua'r de sy'n arwain i Gyfnewidfa Glyn-taf ac oddi yno. Mae map o'r ardal a fydd ar gau a llwybr amgen wedi'u cynnwys yma: DOLEN
Mae llwybr amgen ar gyfer gyrwyr o ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau, ar hyd yr A4054 Heol Caerdydd, cylchfan Glan-bad, yr A470 tua'r gogledd a Chyfnewidfa Glyn-taf. O ochr ogleddol y ffordd sydd ar gau, gwnewch yr un daith ond i'r cyfeiriad croes gan ddefnyddio'r A470 tua'r de. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i eiddo, ond fydd mynediad ddim ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys.
Dylai beicwyr ddod oddi ar y beic a defnyddio’r llwybr dargyfeirio i gerddwyr, a fydd wedi’i nodi ag arwyddion ar hyd Heol Caerdydd. Mae’r llwybr yma o bwynt ger rhif 27 Heol Caerdydd, gan fynd ar hyd y droedffordd i’r gylchfan yng Nglyn-taf – lle bydd modd i gerddwyr a beicwyr groesi’r ffordd yn ddiogel.
Nodwch, er bod mynediad ar gael i gerddwyr, bydd llawr caled yn cael ei adeiladu ar Heol Caerdydd ar gyfer gwaith cydosod y bont droed. Mae rhan fwyaf o'r bont wedi'i hadeiladu oddi ar y safle, a bydd yn cyrraedd Heol Caerdydd mewn sawl rhan. Bydd craen 130 tunnell yn cael ei ddefnyddio i godi rhannau i gydosod y bont, tra bydd craen 1,000 tunnell yn cael ei ddefnyddio i osod y bont droed.
Bydd rhai adegau pan fydd y craen yn gweithredu ble bydd gofyn i gerddwyr aros am gyfnod byr i sicrhau diogelwch. Bydd marsialiaid yn bresennol i roi cymorth gydag elfennau yma'r gwaith.
Gwasanaeth bws gwennol RHAD AC AM DDIM yn ystod cyfnod cau'r ffordd
Yn ystod cyfnod cau'r ffordd, fydd dim modd i fysiau wasanaethu Rhydfelen a'r Ddraenen Wen, a bydd yn dargyfeirio ar hyd yr A470 i'r ddau gyfeiriad. Bydd gwasanaeth bws gwennol RHAD AC AM DDIM a weithredir gan Adventure Travel Ltd yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos o Erddi Glantaf yn Rhydfelen i ‘The Pottery’ yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Mae modd cysylltu â chwmni Adventure Travel Ltd drwy ffonio 02920 442040.
Bydd y bws gwennol yn cysylltu teithwyr gyda Gwasanaethau 120 a 132 er mwyn iddyn nhw barhau â'u taith i'r ddau gyfeiriad – i Gaerdydd, Caerffili, Pontypridd a Chwm Rhondda. Mae modd i chi ddod o hyd i amserlen wythnosol y bws gwennol, yma: DOLEN
Yn y cyfamser, bydd gwasanaeth 102 ac 112 Adventure Travel Services yn gweithredu ar hyd Ffordd y Nant, yr A470 i Tesco, Ystâd Ddiwydiannol Gellihirion, Heol Dynea, Stryd y Celyn, Heol y Dyffryn a Stryd y Dderwen – cyn dychwelyd i’w llwybrau arferol yn ôl i Tesco, yr A470, Glyn-taf a Phontypridd. Bydd gwasanaeth 104 yn gweithredu ar hyd Glyn-taf, yr A470 i Tesco, Ystâd Ddiwydiannol Gellihirion, Heol Dynea, Stryd y Celyn, Heol y Dyffryn, Ffordd Maesfield, Gerddi Wordsworth a Stryd y Celyn, cyn ailymuno â’i llwybr arferol ar hyd Tesco, yr A470, Glyn-taf a Phontypridd.
Hoffai'r Cyngor ddiolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd i ddod i amnewid Pont Castle Inn. Mae'r cynllun yn cael ei gwblhau yn rhan o raglen waith fawr ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf (2023/24), sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.
Wedi ei bostio ar 20/07/23