Mae'r Cyngor yn gwahodd trigolion i fynegi eu barn ar ddatblygiad fferm ynni solar GYNTAF Cyngor Rhondda Cynon Taf a fydd ar safle hen lofa uwch ben Coed-elái ym mhentref Tonyrefail.
Mae disgwyl y bydd y Fferm Solar yn cynhyrchu 6 megawat o bŵer. Bydd 5 megawat o bŵer yn cael ei gysylltu â’r grid cenedlaethol gyda'r potensial hefyd i gyflenwi 1 megawat o bŵer i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gerllaw. Rydyn ni'n cwblhau'r amcangyfrifon arbed costau ar hyn o bryd, ond mae'r arwyddion cynnar yn dangos y bydd yn lleihau costau ynni'r Cyngor yn sylweddol, sydd tua £21 miliwn y flwyddyn ar hyn o bryd.
Gan fod y tir yn y safle arfaethedig ar hen lofa wedi'i hadfer, nid yw ansawdd y pridd yn addas i dyfu cnydau. Serch hynny, os caiff y cynllun ei gymeradwyo, bydd hawliau pori ar gyfer anifeiliaid yn parhau i fod ar gael. Mae'r prosiect yma'n enghraifft o sut y mae modd i gynhyrchu ynni solar hefyd gael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth a ffermio.
Mae'r Cyngor eisoes wedi gosod paneli toeau ar ysgolion a chanolfannau hamdden, gan gynhyrchu 2 fegawat o ynni yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Os caiff ei chymeradwyo, bydd y fferm solar newydd yng Nghoed-elái yn cefnogi ymgyrch y Cyngor i gynyddu faint o ynni gwyrdd rydyn ni'n ei gynhyrchu. Mae gan y fferm solar y potensial i wrthbwyso dros 1,500 tunnell o garbon bob blwyddyn.
Cyn bo hir, byddwn ni'n anfon manylion am y prosiect i gartrefi trigolion yn yr ardal leol, gyda gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i oddeutu 5,000 o gartrefi. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ble mae modd i drigolion ddod o hyd i ddogfennau ac arddangosfeydd cyhoeddus am y prosiect.
Bydd yr ymgynghoriad lleol ar gael o ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf tan ddydd Mawrth, 8 Awst. Yn dilyn hyn, mae disgwyl y bydd cais cynllunio'n cael ei gyflwyno, a phe bai'n llwyddiannus, mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod 2024. Rydyn ni'n gwahodd unrhyw drigolyn sydd â phryderon neu adborth am y prosiect arfaethedig i roi gwybod i ni yma https://theurbanists.net/application/proposed-solar-farm-at-coed-ely-tonyrefail/.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030 ac i gyfrannu at waith a fydd hefyd yn cynorthwyo'r Fwrdeistref Sirol i symud ymlaen i fod yn Garbon Niwtral. Er mwyn cyflawni'r targedau yma, rydyn ni wedi gwneud newidiadau ac wedi edrych ar ffyrdd newydd i ddarparu gwasanaethau sy'n fwy cyfeillgar i'r hinsawdd, ac yn y nwyddau a gwasanaethau rydyn ni'n eu prynu a'u comisiynu. Mae modd dod o hyd i ragor o'n gwaith i leihau allyriadau carbon a diogelu'r amgylchedd rhag effeithiau Newid yn yr Hinsawdd ar ein Gwefan Newid yn yr Hinsawdd.
Trwy ddatblygu fferm solar o'r maint yma, a chynhyrchu ein hynni gwyrdd ein hunain, byddwn ni'n cyflawni'r ymrwymiadau hinsawdd yn ein Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd - 'Hinsawdd Ystyriol Rhondda Cynon Taf', gan fwrw ein targed lleihau carbon i fod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030, a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus Sero Net, hefyd, erbyn 2030.
Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol: “Rwy’n falch iawn o weld y Cyngor yn cymryd camau cadarnhaol tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy drwy ddatblygu ein fferm ynni solar gyntaf, gan dynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030.
"Rydw i hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at sut y mae modd i'r prosiect yma fod yn enghraifft dda o sut y mae modd i ynni solar gael effaith gadarnhaol ar fioamrywiaeth a ffermio. Mae hyn, law yn llaw â gostyngiadau sylweddol yng nghostau ynni, yn pwysleisio'r datblygiadau sy'n cael eu rhoi ar waith i fwrw targed Carbon Niwtral y Cyngor erbyn 2030."
Wedi ei bostio ar 14/07/23