Bu Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref yn croesawu Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ac Aelod o Gabinet y Cyngor yn ystod ymweliad diweddar – wrth i ddisgyblion a staff ddathlu'r cynnydd tuag at adeiladu eu hysgol newydd.
Ymwelodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg â'r ysgol ym Mhentre'r Eglwys ddydd Iau, 6 Gorffennaf, ar gyfer seremoni 'llofnodi'r dur' gyda staff; disgyblion; y Cynghorydd Rhys Lewis; y partner cyflenwi, WEPco; y contractwr adeiladu, Morgan Sindall; a'r contractwr rheoli cyfleusterau, Robertsons.
Mae'r buddsoddiad yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd arian refeniw'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.
Ymunodd Y Cynghorydd Lewis â staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn Llantrisant ar gyfer eu seremoni 'llofnodi'r dur' hefyd. Dechreuodd prosiect y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ym mis Ionawr er mwyn adeiladu adeiladau ysgol newydd erbyn 2024. Maen nhw newydd nodi carreg milltir drwy osod y ffrâm ddur. Mae crynodeb o bob prosiect, a diweddariad cynnydd y gwaith adeiladu wedi'u cynnwys ar ddiwedd y diweddariad yma.
Dywedodd Jeremy Miles: "Roedd hyn yn gyfle gwych i ddathlu adeiladu'r ddwy ysgol yma. Rwy'n falch iawn eu bod nhw'n bwriadu gwasanaethu'r gymuned o'u hamgylch, gan eu gwneud nhw wir yn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned bydd pawb yn elwa ohonyn nhw.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi'r llwyfan cryfaf a mwyaf arloesol i'r disgyblion ieuengaf ddysgu er mwyn inni allu rhoi'r amgylchedd mwyaf cefnogol iddyn nhw gyrraedd eu potensial."
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Roeddwn i'n falch iawn i ymweld ag Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ddydd Iau, a hoffwn i ddiolch i staff a disgyblion yn y ddwy ysgol am eu croeso cynnes. Mae'n amser cyffrous ar gyfer y ddau brosiect, gyda fframiau dur yr adeiladau bellach yn eu lle, gan gynrychioli carreg filltir bwysig yn y gwaith adeiladu.
"Ymunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg â ni ym Mhentre'r Eglwys, ac roeddwn i'n falch iawn iddo weld y cynnydd ardderchog sy'n cael ei wneud tuag at ddarparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf ar gyfer y gymuned.
"Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein hysgolion drwy'r Cynllun Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys tri adeilad ysgol newydd ym Mhentre'r Eglwys, Llantrisant a Phont-y-clun drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol; adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog; a buddsoddiad o £75.6 miliwn ledled ardal ehangach Pontypridd.
"Roedd y seremonïau 'llofnodi'r dur' yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi yn dathlu'r cynnydd da sydd wedi'i wneud hyd yn hyn. Am fod fframiau'r ddau adeilad bellach yn eu lle, rwy'n edrych ymlaen at weld y ddau safle'n parhau i gael eu trawsnewid dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Bydd y prosiectau'n datblygu ac yn datblygu tan iddyn nhw gael eu cwblhau'r flwyddyn nesaf, wrth inni ddarparu rhagor o amgylcheddau dysgu modern ar gyfer ein disgyblion, gan gyflwyno cyfleoedd newydd yn eu haddysg."
Y diweddaraf ar y cynnydd yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref
Mae'r holl waith sylfaen wedi'i gwblhau, ynghyd â gosod y ffrâm ddur – tra bod gwaith draenio yn mynd rhagddo'n dda. Mae gwaith i'r to bellach wedi dechrau, ac mae'r to ar y trywydd iawn i fod yn dal dŵr erbyn diwedd yr haf – ynghyd â sicrhau fod yr adeilad cyfan yn dal dŵr erbyn tymor yr hydref, 2023. Mae'r adeilad yn parhau i fod ar y trywydd iawn i agor i ddisgyblion a staff yng ngwanwyn 2024, gyda'r holl gyfleusterau allanol (megis yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd a'r maes parcio) yn barod erbyn tymor yr hydref, 2024.
Bydd yr adeilad unllawr yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer dosbarth meithrin, dosbarth derbyn, tri dosbarth i'r babanod a phedwar dosbarth i blant yr adran iau. Yn ogystal â hynny, bydd ardal ganolog, prif neuadd a mannau amrywiol eraill. Y tu allan bydd ardaloedd wedi'u tirlunio a meysydd chwarae caled a meddal, dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt (5 bob ochr) a thrac rhedeg glaswellt 40 metr. Bydd 23 o leoedd parcio (bydd gan bedwar ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) a mannau storio beiciau.
Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi (erbyn yr haf, 2024)
Mae gwaith trin yr hen weithfeydd mwyngloddio dan ddaear wedi'i gwblhau gan greu platfform sefydlog ar gyfer yr ysgol newydd. Mae gwaith gosod y ffrâm ddur a sylfeini wedi'i gwblhau tra bo gwaith draenio yn mynd rhagddo. Mae'r to ar y trywydd iawn i fod yn ddwrglos erbyn tymor yr hydref 2023, gyda'r adeilad cyfan yn gallu gwrthsefyll y tywydd erbyn dechrau 2024. Mae'r adeilad ar y trywydd iawn i gael ei agor i ddisgyblion a staff ym mis Medi 2024, gyda'r holl gyfleusterau allanol (megis yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd a maes parcio) yn barod erbyn dechrau 2025.
Bydd gan yr adeilad deulawr ystafelloedd dosbarth ar gyfer dau ddosbarth meithrin, un dosbarth derbyn, tri dosbarth i'r babanod a chwe dosbarth i blant yr adran iau, yn ogystal ag ardal ganolog, prif neuadd a chyfleusterau a mannau amrywiol eraill. Bydd meysydd chwarae caled yn cael eu darparu y tu allan, yn ogystal â chae chwaraeon (7 bob ochr), dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd a meysydd chwarae anffurfiol ar ochr ddeheuol y safle. Bydd 28 o leoedd parcio yn cael eu darparu (bydd gan bedwar ohonyn nhw gyfleuster gwefru cerbydau trydan) yn ogystal â mannau storio beiciau.
Wedi ei bostio ar 12/07/2023