Trafododd y Cabinet gynigion i ddatblygu adeiladau Rock Grounds yn Aberdâr yn westy, bwyty, bar a sba o ansawdd uchel – a chytunwyd y bydd y Cyngor yn dechrau proses ffurfiol i sicrhau partner datblygu.
Yn ei gyfarfod ddydd Llun, 17 Gorffennaf, trafododd y Cabinet y cynigion i adnewyddu ac ailddatblygu'r safle, cadw'r adeiladau a gofalu am yr adeiladau a nodweddion hanesyddol. Byddai'r gwaith ailddatblygu yn sicrhau bod digon o lefydd parcio cyhoeddus yn dal i fod yno yn ogystal â chadw penddelw o Keir Hardy. Byddai'r cyfleusterau sy'n hwyluso'r gwesty newydd ar gael i'r gymuned i'w defnyddio, yn ogystal â thwristiaid.
Ym mis Mai, trafododd y Cabinet y strategaeth ddrafft sy’n cwmpasu cynigion ar gyfer dyfodol swyddfeydd y Cyngor – byddai'r cynigion yma'n golygu gwagio Rock Grounds fel bod modd datblygu'r adeiladau. Mae'r Cyngor hefyd wedi dechrau ymgynghoriad â thrigolion ar Strategaeth Ddrafft Canol Tref Aberdâr. Bydd y Strategaeth Ddrafft yn amlinellu gweledigaeth glir y Cyngor ar gyfer y dref, yn ogystal â'i amcanion a'i flaenoriaethau niferus o ran buddsoddi.
Mae'r themâu buddsoddi allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth ddrafft yn cynnwys ailddatblygu ac ail-ddefnyddio adeiladau i greu llety a bwyty o ansawdd uchel i ymwelwyr gan gryfhau hunaniaeth Aberdâr trwy wella profiadau ymwelwyr a gwella cynnig twristiaeth yr ardal. Mae'r cynigion ar gyfer ailddatblygu Rock Grounds yn cydymffurfio â'r themâu yma.
Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi comisiynu Purcell Architects i ddarparu cynlluniau ar gyfer y cynigion cychwynnol ac roedden nhw wedi'u cynnwys yn adroddiad y Cabinet ddydd Llun. Mae'r lluniau cychwynol yn dangos sut byddai'r gwesty, bar, ac adeiladu ychwanegol ar gyfer sba newydd yn ffitio yn Rock Grounds. Bydd y cynlluniau yma'n cael eu haddasu ymhellach wrth i'r prosiect fynd rhagddo.
Yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor, bydd swyddogion yn bwrw ymlaen â phroses gaffael ffurfiol dros y 6 mis nesaf er mwyn dod o hyd i bartner datblygu. Mae adroddiad ddydd Llun yn nodi bod cyfleoedd ar gael i dderbyn cyllid allanol gan Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn cyflawni'r datblygiad.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae'r cynigion ar gyfer Rock Grounds, Aberdâr yn gyffrous iawn a byddan nhw'n ateb y galw am westy o ansawdd ar gyfer y dref a gweddill y rhanbarth. Mae gan Gwm Cynon atyniadau gwych i ymwelwyr - o Zip World Tower i Barc Gwledig Cwm Dâr, Parc Beiciau Disgyrchiant a Distyllfa Penderyn. Byddai pobl sy'n aros yn y gwesty yn fwy tebygol o ymweld â chanol y dref gan gynyddu nifer yr ymwelwyr a rhoi hwb i fusnesau lleol.
"Byddai cyfleusterau'r gwesty – y sba, y bar a’r bwyty – ar gael i'r gymuned a thwristiaid eu defnyddio. Byddai'r datblygiad yn arloesol, o ansawdd uchel ac yn addas ar gyfer cynnal achlysuron a dathliadau lleol. Nid dyma'r adeilad cyntaf i gael ei ailddatblygu yn Aberdâr ar ôl i nifer o adeiladau preswyl a masnachol amlwg gael eu hailddatblygu, gan gynnwys hen neuadd y dref a thafarn 'The Black Lion'. Mae dechrau ailddefnyddio adeiladau fel hyn yn rhan allweddol o strategaeth adnewyddu'r Cyngor a byddwn ni'n parhau i gadw llygad am gyfleoedd o'r fath yn y dyfodol.
"Fis diwethaf, cytunodd y Cabinet i ymgynghori ar Strategaeth Canol Tref Aberdâr, sy'n cyflwyno gweledigaeth glir ar gyfer y dref yn debyg i'r cynlluniau ym Mhontypridd, Porth ac Aberpennar. Dechreuodd swyddogion ar waith ymgysylltu â thrigolion a busnesau, a oedd yn effeithiol o ran canfod beth yw barn pobl o Aberdâr a sut, yn eu barn nhw, y mae modd gwella'r dref. Bydd y strategaeth yma'n lasbrint ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol ac rwy'n annog trigolion lleol i ddweud eu dweud yn rhan o'r ymghynghoriad sydd ar ddod.
"Rwy'n hyderus y byddai datblygu Rock Grounds yn troi'r adeilad yn ased gwerthfawr ac o ansawdd uchel ar gyfer Canol Tref Aberdâr, yn hybu twristiaeth leol ac yn dod â chyfleoedd cyflogaeth. Bydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â'r prosiect ddydd Llun a bydd swyddogion yn dechrau ar broses gaffael i ddod o hyd i bartner datblygu addas."
Wedi ei bostio ar 21/07/2023