Bydd gwaith yn dechrau yr wythnos nesaf er mwyn atgyweirio waliau cynnal yr afon rhwng Ynys-y-bwl a Glyn-coch – sy'n gofyn am osod goleuadau traffig dros dro a therfyn cyflymder llai ar ran o'r B4273, Heol Ynysybwl.
Cafodd sawl rhan o wal yr afon ar hyd y B4273 rhwng Ynys-y-bwl a Glyn-coch eu difrodi yn ystod Storm Dennis. Mae'r gwaith atgyweirio sydd i ddod yn rhan o ail gam y gwaith, wedi i ddwy wal gynnal uwchlaw Nant Clydach gael eu hatgyweirio yn yr haf, 2020. Bydd contractwr y Cyngor, DT Contracting, yn dechrau ar ail gam y gwaith yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 10 Gorffennaf, syddi'w gwblhau yn yr Hydref.
Mae cynllun eleni’n cynnwys gwaith clirio llystyfiant ar wynebau'r waliau, gwaith ailadeiladu ac ailbwyntio pum wal garreg ac atgyweiriadau sgwrio ar rannau sydd wedi'u heffeithio. Bydd cerrig bloc o fewn y cwrs dŵr yn cael eu gosod hefyd.
Er mwyn cwblhau'r gwaith mewn modd diogel, bydd un lôn ar gau ar Heol Ynysybwl (lôn i gyfeiriad y dwyrain), sy’n golygu bydd angen goleuadau traffig dwyffordd. Bydd y terfyn cyflymder yn cael ei ostwng dros dro i 30mya. Bydd arwyddion ffyrdd yn nodi hyn yn amlwg. Bydd lleoliad y goleuadau traffig yn newid wrth i'r cynllun fynd yn ei flaen.
Ni fydd y gwaith yn effeithio ar lwybr troed Nant Clydach. Fodd bynnag, bydd cyfnodau pan fydd y safle'n derbyn nwyddau - bydd gweithwyr yn tywys pob aelod o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r llwybr.
Mae'r cynllun wedi’i gynnwys mewn rhaglen fuddsoddi sylweddol ar gyfer atgyweiriadau'n dilyn Storm Dennis yn 2023/24, sy'n cael ei hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Tair blynedd a hanner wedi Storm Dennis, mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i atgyweirio a diogelu isadeiledd oedd wedi cael ei ddifrodi ar gyfer y dyfodol. Cafodd sawl wal gynnal ar hyd yr afon, ar Heol Ynysybwl, eu difrodi. Cwblhaodd y Cyngor gam cyntaf y gwaith atgyweirio yn yr haf yn dilyn Storm Dennis.
"Mae cymorth cyllid penodol ar gyfer difrod o ganlyniad i Storm Dennis gan Lywodraeth Cymru yn parhau yn 2023/24, ac rydyn ni'n bwrw ymlaen â rhaglen fawr sy'n cynnwys Pont Castle Inn yn Nhrefforest, Pont Heol Berw (Y Bont Wen) ym Mhontypridd, Pont droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail a Phont Droed y Bibell Gludo yn Abercynon. Mae'r cyllid yma ar wahân i'r £4.45 miliwn sydd wedi cael ei ddyrannu i Strwythurau Priffyrdd ein rhaglen gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth ni.
"Bydd yr atgyweiriadau wal sydd i ddod rhwng Ynys-y-bwl a Glyn-coch yn defnyddio trefniadau rheoli traffig tebyg i'r rhai yng ngham cyntaf y gwaith yn 2020. Bydd y rhain yn cynnwys goleuadau traffig dros dro ar Heol Ynysybwl, ynghyd â therfyn cyflymder wedi'i ostwng i 30mya, er diogelwch modurwyr a'r gweithlu. Diolch ymlaen llaw i ddefnyddwyr y ffyrdd a phreswylwyr am eich cydweithrediad."
Wedi ei bostio ar 06/07/23