Mae'r Cyngor wedi rhoi'r diweddaraf ar y gwaith mawr gwerth £1.4miliwn i wella'r orsaf bwmpio yn Glenboi.
Bydd y cynllun yn lleihau effaith llifogydd ar bwynt isel hysbys yn y ffordd, fel bod modd i'r system ymdopi â glaw trwm yn ystod stormydd yn well, ac i leihau llifoedd i gwlfer i lawr yr afon.
Dechreuodd y gwaith ym mis Mawrth 2023, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda. Bydd yn cael ei gwblhau ym mis Awst.
Mae gwaith adeiladu'r siambr storio dŵr storm fawr wedi'i gwblhau, ynghyd â chysylltiadau i systemau draenio presennol ac adeiladu ciosg rheoli newydd.
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd y contractwr yn creu cilfan newydd wrth ymyl y ffynnon ac yn gorffen gwaith ar y safle, fel codi ffensys.
Bydd gwaith gosod asedau mecanyddol a thrydanol hefyd yn cael ei gwblhau, ynghyd â gwaith cwblhau i gefnfur yr allfa.
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth unwaith y bydd y cynllun buddsoddi yma bron wedi'i gwblhau.
Mae'r cynllun yn elwa o gyfraniad o 85% (dros £1.2 miliwn) gan Raglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Wedi ei bostio ar 19/07/23