Skip to main content

Achlysur cymunedol ar gyfer cynllun datblygu Aberpennar gyda Linc Cymru

Extra Care generic

Caiff trigolion eu gwahodd i achlysur cymunedol lleol yn Aberpennar i gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad arfaethedig newydd a fydd yn cefnogi  gofal preswyl dementia a llety gofal ychwanegol, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer hen safle’r Pafiliwn yn Heol y Darren.

Byddai'r cynllun arfaethedig yn cael ei ddarparu ar y cyd â Linc Cymru (Linc), a hynny'n rhan o'r £60 miliwn y cytunwyd arno ar gyfer moderneiddio llety gofal ym mis Chwefror 2023. Mae hyn ar ben y buddsoddiad gofal ychwanegol gwerth £50 miliwn y cytunwyd arno yn 2017 i gynyddu nifer y gwelyau gofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf i 300.

Hyd yma, mae 100 o welyau gofal ychwanegol wedi eu creu ar draws cynlluniau newydd yn Aberaman (Maes-y-ffynnon) a'r Graig (Cwrt yr Orsaf). Yn ogystal â hyn, mae gwaith adeiladu i ddarparu 60 gwely gofal ychwanegol yn mynd rhagddo yn y Porth, a chafodd llety gofal newydd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn y Gelli ganiatâd cynllunio ym mis Ebrill.

Mae Linc wedi comisiynu Cymorth Cynllunio Cymru i ymgynghori â thrigolion ynghylch cynnig Aberpennar, a fyddai'n adfywio hen safle’r Pafiliwn ger Parc Gwernifor. Dyma gyfle i drigolion gael rhagor o wybodaeth a dweud eu dweud ar yr hyn sydd ar y gweill, a helpu i lywio’r cynllun wrth symud ymlaen.

Mae croeso i’r gymuned fynychu un o ddau gyfarfod yn Neuadd y Dref, Aberpennar (yng Nghilgant y Ffrwd) ddydd Iau, 15 Mehefin. Bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal rhwng 2.30pm a 4.30pm, a bydd yr ail gyfarfod yn cael ei gynnal rhwng 6.30pm a 8.30pm. Does dim angen i chi gadw lle ymlaen llaw i fynychu'r naill gyfarfod na'r llall.

Mae modd i aelodau'r cyhoedd sydd ddim yn gallu dod i’r naill gyfarfod na'r llall gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio mark@planningaidwales.org.uk neu ffonio 02921 660904.

Byddai'r cynllun arfaethedig yn darparu 15 o welyau gofal dementia preswyl o ansawdd uchel, a 25 o  fflatiau gofal ychwanegol, yn ogystal â thai hygyrch i bobl hŷn. Mae hyn oll mewn ymateb i anghenion demograffeg yr ardal.

Byddai’r cynllun ar safle'r hen Bafiliwn, a oedd yn dyddio’n ôl i 1919 – a bydd camau dylunio’r datblygiad yn ystyried yr hanes arwyddocaol yma ar gyfer y cynllun arfaethedig.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydw i'n annog trigolion lleol Aberpennar a chymunedau cyfagos i fod yn bresennol yn un o’r achlysuron cyhoeddus ar 15 Mehefin, i gael rhagor o wybodaeth am gynigion ar gyfer y datblygiad – a fyddai’n darparu gofal ychwanegol a llety gofal dementia preswyl, yn ogystal â thai hygyrch i bobl 50 oed ac yn hŷn. Byddai’r cynllun blaenllaw newydd presennol yma, gyda llety gofal cyfunol, yn adeiladu ar y datblygiadau gofal ychwanegol diweddaraf sydd eisoes yn bodoli yn Nhonysguboriau, Aberaman a’r Graig – sydd eisoes wedi’u sefydlu fel canolfannau poblogaidd, modern wrth galon eu cymunedau.

“Mae’r cynllun buddsoddi gofal ychwanegol gwerth £50 miliwn yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â Linc i ddarparu cyfanswm o 300 o fflatiau gofal ychwanegol ledled Rhondda Cynon Taf – gyda 140 o welyau ar gael ar draws y tri chynllun sydd wedi’u cwblhau hyd yma.

"Ym mis Chwefror eleni, cytunodd Aelodau'r Cabinet ar gynigion pellach am fuddsoddiad cyfalaf gwerth £60 miliwn i wella darpariaeth leol ymhellach. Gan adeiladu ar y cynigion gofal ychwanegol y cytunwyd arnyn nhw'n flaenorol, bydd y rhaglen foderneiddio yma'n cadw pum cartref gofal y Cyngor ac yn darparu cyllid sylweddol ar gyfer pedwar llety gofal newydd o'r radd flaenaf yn nhrefi Treorci, Glynrhedynog, Aberpennar a Phentre'r Eglwys.

"Y datblygiad newydd cyffrous yn Aberpennar yw’r un nesaf i gael ei ddatblygu – gan ddangos eto ein hymrwymiad i foderneiddio gofal preswyl i bobl hŷn, i addasu i boblogaeth sy’n heneiddio ac i ymateb i ddisgwyliadau newidiol y sector.

“Mae’r cynllun yn Aberpennar wedi ei glustnodi ar gyfer hen safle'r Pafiliwn, a chaiff arwyddocâd y safle a’i hanes pwysig eu cadw mewn cof wrth i’r datblygiad newydd gael ei ddylunio. Bydd yr achlysuron yn Neuadd y Dref, Aberpennar, ar 15 Mehefin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am y cynnydd diweddaraf hyd yma, a rhoi cyfle iddyn nhw gael gwybod rhagor a dweud eu dweud ar y cynllun.”

Ychwanegodd Natalie Hawkins, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Linc Cymru: "Mae'r achlysur yma'n gyfle i drigolion ddod i weld ein cynnig ar gyfer y safle a gofyn unrhyw gwestiynau. Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn mynychu nifer o sesiynau er mwyn ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i drigolion ddod.

"Galwch heibio a bydd aelod o'r garfan yn barod i ddangos y cynllun i chi, trafod yr hyn sydd wedi'i gynnig a gwrando ar eich barn. Os nad oes modd dod i un o'r achlysuron, mae'n bwysig i drigolion wybod bod modd cymryd rhan o hyd drwy e-bostio mark@planningaidwales.org.uk neu ffonio 02921 660904.

"Ochr yn ochr â'n datblygiadau, rydyn ni'n gweithio gyda'n contractwyr er mwyn sicrhau buddion pellach ar gyfer y gymuned leol. Gwerth cymdeithasol yw'r enw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn, ac mae'n dechrau gyda gwrando ar farn trigolion, grwpiau a sefydliadau o ran pa welliannau neu gymorth ychwanegol sydd eu hangen ar ardal. Felly os oes gyda chi syniadau, dewch i'w rhannu nhw gyda ni."

Wedi ei bostio ar 05/06/2023