Byddwch chi'n sylwi ar waith yn mynd rhagddo ar yr A4061 (Stryd Baglan a Stryd Jones) Treorci wrth i'r Cyngor gynnal gwaith i wella'r system ddraenio.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod strwythur i atgyfnerthu'r rhwydwaith cyfredol er mwyn gwella ansawdd y geuffos a gwella capasiti'r rhwydwaith.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mawrth, 13 Mehefin, ac yn para tair wythnos. Cafran Gofal y Strydoedd y Cyngor fydd yn gyfrifol am y cynllun.
Mae'n bosibl y bydd angen rheoli traffig dros dro ar gyfer rhai elfennau o'r gwaith.
Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyfraniad o 85% o Raglen Grant Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru, gyda gweddill yr arian yn dod o raglen gyfalaf y Cyngor.
Diolch ymlaen llaw i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 12/06/2023