Skip to main content

Y diweddaraf am bont droed Parc Gelligaled

Gelligaled Park footbridge

Bydd pont droed Parc Gelligaled yn Ystrad yn cau yn ystod y dydd am bythefnos, a hynny ar ôl darganfod difrod annisgwyl yn rhan o’n gwaith parhaus. Bydd yn parhau i fod ar agor yn gynnar yn y bore, yn hwyr yn y prynhawn a gyda'r nos.

Mae'r bont oddi ar Goedlan Pontrhondda wedi parhau i fod ar agor wrth i ail gam y gwaith atgyweirio a ddechreuodd ym mis Mai, gael ei gynnal.

Serch hynny, mae cyrydiad mawr wedi'i ddarganfod ar gerrig cyfnerthu fertigol y bont, ac felly rhaid cau'r bont er mwyn sicrhau diogelwch wrth gynnal y gwaith unioni yma.

Felly, gan ddechrau o ddydd Llun, 3 Gorffennaf, bydd y bont ar gau rhwng 9.30am a 3pm bob dydd. Bydd y trefniant yma ar waith am bythefnos.

Bydd arwyddion yn cael eu gosod i ddangos y y llwybr amgen i gerddwyr a beicwyr ar hyd yr A4058 Heol Tyntyla.

Y cam mawr nesaf o waith ar y safle fydd ail-baentio'r strwythur - bydd y bont yn parhau i fod ar agor ar gyfer y gweithgaredd yma.

Bydd y cynllun cyffredinol yn cynnwys cyflawni atgyweiriadau i'r gwaith maen, concrit a'r sgwrfa, ynghyd ag ailosod canllaw a gwella'r goleuadau stryd.

Bydd cam olaf y gwaith yn cynnwys gosod wyneb newydd, a bydd angen cau’r bont am gyfnod byr yn ystod y gwaith yma.

Mae’r cynllun wedi’i gynnwys yn rhan o raglen fawr o waith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn 2023/24, sy’n elwa ar gyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Diolch i'r gymuned yn Ystrad am eich amynedd a'ch cydweithrediad parhaus.

Wedi ei bostio ar 28/06/23