Dyma roi gwybod i drigolion y bydd gwaith gosod wyneb newydd yn cael ei gynnal yn Stryd y Parc #Trefforest ar ddau ddydd Sul (18 a 25 Mehefin) er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Bydd angen cau'r ffordd ar y ddau ddiwrnod, rhwng cyffordd Stryd y Parc â Stryd y Castell hyd at bwynt ger Siop Premier. Mae'r lleoliad i’w weld ar y map canlynol.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y dydd ddydd Sul, 18 Mehefin a dydd Sul, 25 Mehefin. Bydd y ffordd ar gau rhwng 9am a 4pm ar y ddau ddiwrnod.
Mae llwybr amgen ar gael ar hyd Stryd y Castell, Heol y Fforest, Stryd y Parc, Heol Llanilltud, Heol Tonteg, Cylchfan Glan-bad, yr A470, Cyfnewidfa Glyn-taf a Stryd Fothergill.
Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau’r gwasanaethau brys, a bydd mynediad ar gael i eiddo hefyd.
Mae'r gwaith yn cael ei gynnal yn rhan o ddyraniad y Cyngor gwerth £4.8 miliwn i gynnal a chadw ffyrdd, llwybrau troed a ffyrdd heb eu mabwysiadu, yn Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd ar gyfer 2023/24.
Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 09/06/23