Skip to main content

Casgliadau Unwaith Bob Tair Wythnos yn Dechrau 03/07/2023

Bydd y newidiadau o ran casgliadau unwaith bob tair wythnos yn dod i rym ledled Rhondda Cynon Taf ddydd Llun, 3 Gorffennaf.

Mae'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn bwysig gan fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn y cyfraddau ailgylchu yn y Fwrdeistref Sirol yn ddiweddar.

Bydd mwy na dau draean o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth tebyg erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd ailgylchu yn cynnwys gwastraff bwyd, gwastraff o'r ardd a chewynnau yn parhau i gael eu casglu yn wythnosol ond bydd casgliadau bagiau du a biniau olwynion yn digwydd unwaith bob tair wythnos o ddydd Llun, 3 Gorffennaf.

Bydd hyn yn golygu:

  • Caiff cartrefi â bin ar olwynion 240l (mawr) roi'r bin allan i'w gasglu, gyda'r caead ar gau. Fydd dim bagiau du ychwanegol yn cael eu casglu.
  • Caiff cartrefi â bin ar olwynion 120l (bach) roi'r bin allan i'w gasglu, ynghyd ag un bag du safonol (dim mwy na 70l) ar ben y bin neu wrth ei ymyl.
  • Caiff cartrefi sy'n defnyddio bagiau du roi uchafswm o DRI bag du safonol (dim mwy na 70l) allan i'w casglu bob tair wythnos.

Dylai pob aelwyd ledled Rhondda Cynon Taf fod wedi derbyn pecyn gwybodaeth personol yn cynnwys manylion am y newidiadau a sut byddan nhw'n effeithio arnyn nhw. Bydd nifer o breswylwyr wedi cael gwybod bod diwrnod eu casgliad wythnosol nhw'n newid o'r wythnos yn dechrau dydd Llun 3 Gorffennaf ymlaen ar gyfer casgliadau ailgylchu a gwastraff cyffredinol. Bydd preswylwyr a fyddai'n wynebu 4 wythnos heb gasgliad wrth gyflwyno'r newidiadau yma yn derbyn casgliad arbennig yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar ddydd Llun 3 Gorffennaf ar eu diwrnod casgliadau newydd (pan fo'n berthnasol). Mae modd gweld y manylion llawn ar www.rctcbc.gov.uk/Casgliadau3Wythnos  

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen Cyngor Rhondda Cynon Taf:

"Rydyn ni wedi gwneud gwaith llwyddiannus iawn dros y ddegawd ddiwethaf o ran ailgylchu, diolch i'n trigolion ni sy'n ailgylchu a'n staff ymroddedig. 

"Hoffwn i bwysleisio y byddwn ni'n parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu llawn BOB WYTHNOS. Os ydych chi eisoes yn ailgylchu, sy'n wir am dri ym mhob pedwar person yn Rhondda Cynon Taf, mae'r newidiadau yma'n annhebygol o wneud gwahaniaeth mawr i'ch cartref chi ond byddan nhw'n golygu ein bod ni'n osgoi dirwyon yn y dyfodol, yn sicrhau ein bod ni'n bodloni'r targedau gyda'n gilydd, yn diogelu gwasanaethau hanfodol, ac yn cyrraedd y nod i ddod yn 'sero net' erbyn 2030.

"Rydyn ni wedi ystyried pob ffactor a byddwn ni'n parhau i wneud addasiadau bach dros yr wythnosau nesaf pan fo angen er mwyn sicrhau bod y system newydd yn deg i bawb. “Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cefnogi'r newid ac yn dod at ei gilydd i WELLA ein hymdrechion ailgylchu – bydd y newidiadau rydyn ni i gyd yn eu gwneud i’n harferion nawr yn sicrhau ein bod ni’n osgoi dirwyon sylweddol ac yn diogelu byd mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol – fedrwn ni ddim fforddio peidio â gwneud hyn!"

Dyma atgoffa preswylwyr bod rhaid sicrhau bod gwastraff bwyd yn y bagiau gwyrdd/cadi cywir a bod rhaid rhoi cewynnau yn y bagiau porffor perthnasol (os yw hynny'n berthnasol i chi) a bod gwastraff gwyrdd mewn sachau gwyrdd. Dylai'r holl ddeunyddiau ailgylchu glân a sych gael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu CLIR. 

Mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 8am hyd at 7.30pm (oriau agor yr haf). Yn ystod cyfnodau prysur, mae'n bosibl bydd rhaid aros wrth i sgipiau gael eu newid ac ati. Mae'r holl gyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer pob un o'r holl anghenion ailgylchu. Mae rhestr lawn o'r eitemau a dderbynnir i'w chael ar http://www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu? Croeso i chi fynd i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu

I gyd-fynd â'r wybodaeth yma mae modd i drigolion edrych ar www.rctcbc.gov.uk/DiwrnodCasglu er mwyn gweld pa ddyddiau mae eu casgliadau nhw neu droi i https://www.rctcbc.gov.uk/CasgliadauTairWythnos er mwyn dod o hyd i ragor o fanylion neu ddefnyddio'r cyfleuster chwilio A-Y ar https://www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAilgylchu.   

Wedi ei bostio ar 29/06/23