Mae Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd ddydd Sadwrn 6 Mai 2023 felly dewch i dreulio rhan o benwythnos gŵyl y banc ym Mharc prydferth Aberdâr! Bydd digonedd o adloniant ar gael.
Eleni, bydd yr achlysur yn cynnwys dathliadau ar gyfer Coroni y Brenin Charles III. Caiff yr ŵyl ei chynnal rhwng 11am a 5pm, mae mynediad AM DDIM ac mae llond lle o hwyl ac adloniant am ddim i'r teulu, yn ogystal â ffair, stondinau bwyd ac adloniant byw eisoes wedi'u cadarnhau.
Bydd rhagor o weithgareddau ac atyniadau yn cael eu cadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf felly dilynwch @whatsonrct ar Facebook, Twitter ac Instagram am y newyddion diweddaraf. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan yr ŵyl - www.gwylaberdar.co.uk
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Torrodd Gŵyl Aberdâr 2022 record wrth i filoedd o drigolion ac ymwelwyr ddod i fwynhau’r adloniant rhad ac am ddim, yn ogystal â'r holl weithgareddau sydd ar gael yn barhaol ym Mharc Aberdâr fel y llyn, y cychod a phad sblasio Aquadare.
“Mae Parc Aberdâr a Gŵyl Aberdâr yn drysorau yng nghoron Rhondda Cynon Taf felly mae'n addas y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros benwythnos coroni y Brenin Charles III. Rwy’n gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr yn dod draw i fwynhau a rhoi dechrau da i ŵyl y banc ychwanegol eleni.”
Noddir Gŵyl Aberdâr 2023 gan Nathaniel Cars, sydd wedi bod yn gwerthu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt ers mwy na 35 mlynedd. Mae gan y cwmni dibynadwy yma safleoedd yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Mae carfan Be sy' Mlaen RhCT yn gwahodd busnesau i ddod â stondinau ac arddangosfeydd i'r ŵyl. P'un a ydych chi'n gwerthu cacennau bach neu ganhwyllau a wnaed â llaw, rydyn ni eisiau clywed wrthoch chi! Dewch i ymuno â ni a gwneud y diwrnod yn un arbennig i'n hymwelwyr – mae'n ffordd wych o godi proffil eich busnes hefyd.
Lawrlwythwch ffurflen gais yma.
Bydd manylion terfynol Gŵyl Aberdâr, gan gynnwys amserlen lawn o achlysuron ac atyniadau'r penwythnos yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Facebook, Twitter ac Instagram What’s On RCT. Mae hefyd modd mynd i www.gwylaberdar.co.uk am ragor o wybodaeth.
Wedi ei bostio ar 17/03/2023