Skip to main content

Plac Glas i Jenny Jones

Blue Plaque Jenny Jones

Jenny Jones

Bydd Plac Glas er cof am y weinyddwraig chwaraeon ac arweinydd cadw’n heini o Gymru, Jenny Jones, yn cael ei ddadorchuddio yn Neuadd Morlais, Glynrhedynog. 

Roedd Jenny Jones yn ysgrifennydd Cymdeithas Cadw'n Heini de Cymru yn 1956 ac yn ysgrifennydd a swyddog datblygu Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1975. Roedd hi'n cynrychioli Cadw'n Heini Cymru ac roedd hi hefyd yn gyfrifol am 'Cadw Cwm Rhondda'n Heini' am gynifer o flynyddoedd. 

Meddai'rCynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden Rhondda Cynon Taf: “Roedd gyda Jenny Jones weledigaeth i gadw trigolion Cwm Rhondda yn heini ac yn iach yn ystod blynyddoedd y rhyfel. A hithau'n fenyw benderfynol, datblygodd ddosbarthiadau cadw’n heini ledled y cwm ac aeth ymlaen i fod yn rym aruthrol ledled Cymru. 

“Arweiniodd ei hawydd aruthrol i hybu iechyd a lles ati hi’n cael ei chydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru, ac roedd ei gwaith yn mynd  â hi ledled y wlad. 

“Rwy’n falch iawn bod Jenny Jones yn cael ei chofio fel hyn. Bydd y Plac Glas yn atgof i'r oesoedd o’r fenyw leol a gadwodd bobl yn heini ac a gododd morâl cymaint yn ei chymunedau.” 

Wedi’i geni yn 1916, cafodd Mrs Jones hefyd ei gwahodd yn westai arbennig i fynychu Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf, 1969, yn ogystal â derbyn Medal Anrhydedd am wasanaethau i chwaraeon yng Nghymru yn 1980. 

Cafodd dosbarthiadau cadw’n heini eu sefydlu yng Nghwm Rhondda yn 1929 ac erbyn canol y 30au, roedd y dosbarthiadau’n ffynnu, gyda phobl o bob oed a gallu yn eu mwynhau. Dechreuodd Jenny Jones ymwneud â'r dosbarthiadau yn 1935 pan ymunodd â Chymdeithas Gyfeillgar Merched Glynrhedynog. 

Daeth y dosbarthiadau i ben ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, ond roedd Jenny Jones yn benderfynol o gadw ei chymuned yn heini. Trefnodd deithiau cerdded mynyddoedd rheolaidd, gan wneud ei gorau i gynnal morâl yn ystod blynyddoedd y rhyfel, gyda chymorth Swyddog Meddygol Iechyd Cwm Rhondda, Dr Morley Davies. 

Roedd hi hefyd yn darparu adloniant i’r henoed yn ei hardal leol dros y blynyddoedd, yn ogystal â llwyfannu pantomeimiau amatur, gyda’r holl elw yn mynd at elusennau. 

Yn dilyn blynyddoedd y rhyfel, hyfforddodd Jenny Jones i fod yn Arweinydd Hamdden Corfforol ac yn 1956 cafodd Cymdeithas Cadw'n Heini Cymru a Lloegr ei chreu. Roedd Jenny yn Ysgrifennydd Anrhydeddus de Cymru ar y Pwyllgor Gweithredol. 

Yn fuan wedi hynny, cafodd dosbarthiadau a chyrsiau hyfforddi cadw'n heini newydd eu sefydlu. Gyda'r Fonesig Rowena Treharne wedi’i phenodi’n Llywydd, daeth Cymdeithas Cadw’n Heini Cymru, o dan ei henw newydd, yn gorff llywodraethu ac yn awdurdod blaenllaw ym maes hyfforddiant ffitrwydd yng Nghymru. 

Gwasanaethodd Jenny Jones ar Gyngor Chwaraeon Cymru a chafodd ei phenodi’n Swyddog Datblygu Cadw’n Heini Cymru yn 1975. Enillodd Fedal Arian Jiwbilî’r Frenhines yn 1977 ac roedd hi ymhlith y cyntaf i dderbyn Medal Anrhydedd yn 1980 i gydnabod ei gwasanaeth rhagorol i chwaraeon. 

Parhaodd i drefnu cyrsiau hyfforddi ar gyfer arweinwyr cadw’n heini newydd, yn ogystal â pharhau i gynnal ei dosbarthiadau bythol boblogaidd ei hun yn Wattstown a Glynrhedynog. Aeth Jenny Jones ymlaen hefyd i drefnu rhaglen chwaraeon o weithgareddau i bobl dros 50 oed, gyda dosbarthiadau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda. Daeth y grŵp ymroddedig o selogion i gael eu hadnabod fel 'The Evergreens'. 

Roedd Jenny Jones hefyd yn mynd ati'n frwd i hyrwyddo cynhwysiant mewn chwaraeon ar gyfer pobl ag anableddau. Ar ôl ymddeol o'i rôl yn Swyddog Datblygu Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1985, cafodd achlysur dathlu Jiwbilî Aur Cymdeithas Cadw’n Heini Cwm Rhondda ei gynnal, gyda theyrngedau lu'n cael eu talu i’w harweinydd. 

Ar y pryd, dywedodd Jenny Jones: “Mae fy ngwaith ym maes ffitrwydd bob amser wedi rhoi pleser mawr i mi, ac rwy'n gobeithio fy mod i wedi ysgogi pobl o bob cwr. Mae’r fesen fach yma a dyfodd yn sefydliad mor hollgynhwysol yn dangos i mi'r gefnogaeth a’r cryfder mae Cwm Rhondda yn eu rhoi i ni pan fyddwn ni am gyflawni rhywbeth.” 

Yn anffodus bu farw Jenny Jones, a oedd yn byw yng Nglynrhedynog, yn 2004 yn 88 oed. Bydd Plac Glas er cof amdani yn cael ei ddadorchuddio yn Neuadd Morlais, Glynrhedynog.

Wedi ei bostio ar 30/03/2023