Mae Gwasanaethau Addysg Rhondda Cynon Taf wedi’u canmol am osod safonau uchel a darparu arweinyddiaeth glir a phwrpasol mewn adolygiad Estyn newydd.
Mae adolygiad Estyn ar ansawdd Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor wedi canfod bod ei arweinwyr addysg wedi'u hymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifainc ledled y Fwrdeistref Sirol yn cyflawni eu gorau glas.
Mae modd dod o hyd i adroddiad llawn Estyn, yma.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: "Rwy'n croesawu'r agweddau cadarnhaol o adroddiad Estyn o'n Haddysg a'n Gwasanaethau Cynhwysiant, a hynny gan ein bod ni'n ymfalchïo mewn cynnig yr addysg gorau posibl i'n holl ddysgwyr.
"Mae modd i ni wneud hyn drwy ein Cyfarwyddiaeth Addysg ardderchog, ac felly hoffwn i ddiolch i'n Cyfarwyddwr Addysg, Gaynor Davies, a'n holl staff am eu gwaith ymroddgar a'u hymrwymiad i'n helpu ni i feithrin ein dysgwyr a'u helpu nhw i gyflawni eu gorau glas.
"Rydyn ni'n croesawu'r adolygiad yma ac yn diolch i Estyn am eu harchwiliad trylwyr a phroffesiynol. Rydyn ni wedi ymrwymo i ystyried eu hargymhellion i wella ein darpariaeth ymhellach."
Rhoddodd Estyn ganmoliaeth i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ddatblygu arweinwyr y dyfodol mewn addysg drwy gynnig dysgu proffesiynol cryf a chynllunio olyniaeth effeithiol. Gofynnwyd i’r Gyfarwyddiaeth ddarparu astudiaeth achos arfer arloesol ac effeithiol ar ei gwaith yn y maes yma i’w rhannu ar wefan Estyn.
Nododd yr Arolygwyr hefyd fod Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan OBE, y Prif Weithredwr, Paul Mee a'r Cynghorydd Rhys Lewis, sy’n Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc, law yn llaw â'r aelodau etholedig ac uwch staff yng Nghyfarwyddiaeth Addysg y Cyngor, wedi gosod disgwyliadau uchel ar eu swyddogion, eu hysgolion a’u darparwyr.
Dywedodd Estyn fod hyn yn golygu bod gyda phob swyddog ddealltwriaeth glir o'u rolau a'u cyfrifoldebau a'u bod wedi'u grymuso i gymryd camau gweithredu i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr i wella deilliannau i blant a phobl ifainc ledled yr awdurdod.
Nododd yr arolygwyr fod y Cyngor hefyd yn gwneud defnydd effeithiol o ystod eang o ddata a gwybodaeth wrth ystyried ail-drefnu a chynllunio ysgolion, ac mae’n rhoi blaenoriaeth uchel ar gefnogi’r plant a’r bobl ifainc hynny sydd fwyaf agored i niwed i wella eu deilliannau, eu lles a'u cyfleoedd bywyd. Barnwyd bod y gefnogaeth gyffredinol sydd ar gael ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gryf.
Ystyriwyd bod systemau data'r awdurdod lleol i ddal gwybodaeth am ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion o feysydd gwasanaeth gwahanol yn effeithiol iawn. Gofynnodd Estyn am astudiaeth achos arloesol ac effeithiol pellach ar waith y Gyfarwyddiaeth mewn perthynas â defnyddio data i lywio cynllunio a gwneud penderfyniadau.
Nodwyd bod staff addysg yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn effro i'r cyfeiriad a'r weledigaeth ar gyfer gwella. Nodwyd hefyd fod y Cyngor wedi darparu 'cymorth arbennig o gryf' i'w ysgolion yn ystod pandemig COVID-19 ac yn ystod y broses adfer ddilynol.
Mae argymhellion gan Estyn i gryfhau'r ddarpariaeth bresennol yn cynnwys mireinio dulliau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant; cryfhau dulliau’n ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg trwy wella mynediad a chefnogaeth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a darparu cyfleoedd trochi hwyr i ddysgwyr. Argymhellodd Estyn, hefyd, i gydweithio'n agos ag ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a'r consortiwm rhanbarthol i adeiladu ar waith y Cyngor i wella presenoldeb ymhellach a lleihau gwaharddiadau.
Wedi ei bostio ar 31/03/23