Byddwn ni'n cynnal gwaith gwella draenio yn Heol Llanwynno yn Ynys-hir, gan ddechrau wythnos nesaf (dydd Llun, 3 Ebrill).
Bydd y cynllun yn gwella strwythur cilfach y cwlfert er mwyn cynyddu capasiti'r system pan fydd glaw trwm. Bydd hyn yn lleihau'r risg o lifogydd ac yn gwneud y seilwaith yn haws i'w gynnal a'i gadw.
Bydd y gwaith ger Ysgol Gynradd Ynys-hir, ac mae rhan fawr ohono wedi'i amserlennu yn ystod gwyliau'r Pasg er mwyn peidio â tharfu gormod.
Bydd goleuadau traffig dwy ffordd dros dro yn cael eu defnyddio er diogelwch, a fydd dim hawl gan geir i barcio'n agos atyn nhw.
Mae'r Cyngor wedi penodi cwmni Hammond ECS Ltd yn gontractwr i gyflawni'r gwaith, a fydd yn para tua phedair wythnos.
Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 30/03/2023