Skip to main content

Ymestyn Darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim

FSM_2023_HolidayEaster_CYM

Bydd darpariaeth prydau ysgol am ddim yn parhau ar gyfer disgyblion cymwys yn ystod gwyliau'r Pasg a’r Sulgwyn.

Wrth i'r argyfwng costau byw barhau i gael effaith ar deuluoedd ledled Cymru, mae £9 miliwn wedi'i ddarparu i gynnig prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys hyd at ddiwedd gwyliau hanner tymor ym mis Mai, gan gynnwys ar Wyliau Banc yn ystod y cyfnod yma.

Yn 2020, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud prydau ysgol am ddim ar gael i deuluoedd cymwys yn ystod gwyliau'r ysgol. Awdurdodau Lleol unigol sy'n penderfynu sut i fynd ati â'r ddarpariaeth, naill ai trwy roi'r prydau am ddim neu drwy ddarparu taliadau uniongyrchol neu dalebau i deuluoedd.

Mae Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yn ystod tymor yr ysgol erbyn 2024. Mae dros 3 miliwn o brydau wedi'u darparu ers dechrau â'r ddarpariaeth ym mis Medi 2022.

Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: "Rwy'n falch iawn bod y ddarpariaeth yma'n parhau ar gyfer teuluoedd cymwys ledled ein Bwrdeistref Sirol gan fod nifer o deuluoedd yn teimlo effaith yr argyfwng costau byw.

"Mae bwyta prydau iachus yn effeithio'n fawr ar lefelau canolbwyntio a lles cyffredinol plant ac rydyn ni eisiau iddyn nhw allu mwynhau'r gwyliau heb orfod poeni am fod yn llwglyd."

Am ragor o wybodaeth ar hawlio help gyda chostau ysgol ac i wirio cymhwyster i gael prydau ysgol am ddim, bwriwch olwg ar wefan Llywodraeth Cymru

Wedi ei bostio ar 16/03/23