Mae'r Cyngor yn lansio grŵp newydd i gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n LHDTC+ ddydd Gwener, 31 Mawrth, mewn partneriaeth â'r elusen Fighting With Pride.
Hwn fydd y pumed grŵp i gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf. Dyma'r lleill: Cyn-filwyr Aberpennar/Mountain Ash Veterans, Cyn-filwyr Aberdâr/Aberdare Veterans, Cyn-filwyr y Cymoedd/Valley Veterans a Chyn-filwyr Taf Elái/Taff Ely Veterans. Mae pob un o'r grwpiau yma'n cwrdd yn wythnosol yn eu hardaloedd priodol.
Bydd y grŵp LHDTC+ hefyd yn cwrdd yn wythnosol, bob yn ail rhwng Castell Caerdydd a lleoliad yn Rhondda Cynon Taf.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae gyda ni rwydwaith gwych o grwpiau i gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog ledled ein Bwrdeistref Sirol ac rydw i wrth fy modd ac yn falch bod gyda ni nawr grŵp i gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n LHDTC+.
“Am flynyddoedd lawer, roedd y gymuned LHDTC+ wedi’i stigmateiddio yn y Lluoedd Arfog wrth wasanaethu eu gwlad. Mae’n briodol felly fod cymrodoriaeth a chefnogaeth bellach ar gael tra ar yr un pryd rydyn ni'n myfyrio, yn cydnabod ac yn cofio’r rhai na chafodd y cyfle i fwynhau’r rhyddid sydd gyda ni heddiw.”
Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog yn byw yn Rhondda Cynon Taf. Dyma'r boblogaeth fwyaf heblaw dwy o gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog fesul awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Fighting With Pride, yr elusen ar gyfer cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n LHDTC+, a sefydlwyd 20 mlynedd yn union ers i’r gwaharddiad ar bersonél LHDTC+ yn y Lluoedd Arfog gael ei godi’n llwyr. Mae'r elusen yn cefnogi iechyd a lles cyn-aelodau ac aelodau presennol o'r Lluoedd Arfog sy'n LHDTC+ a’u teuluoedd – yn enwedig y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y gwaharddiad ar bobl LHDTC+ yn y Lluoedd Arfog cyn mis Ionawr 2000.
Fighting With Pride
Yn 2019, lansiodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ei changen Cynghreiriaid LHDTC+ gyntaf erioed, 19 mlynedd ar ôl i Lywodraeth y DU godi’r gwaharddiad ar bobl hoyw a deurywiol yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Y Lleng Brydeinig Frenhinol yw prif elusen Lluoedd Arfog y DU ac un o'i sefydliadau sydd â'r aelodaeth fwyaf. Mae aelodau'n dod at ei gilydd trwy'r rhwydwaith o ganghennau a chlybiau ledled y DU a thramor i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, codi arian a lles.
Mae cangen Cynghreiriaid LHDTC+ y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cydnabod ac yn cofio cyfraniad y gymuned LHDTC+ i’r Lluoedd Arfog.
Dyma ragor o wybodaeth am waith Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Mae Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), tai, gofal cymdeithasol i oedolion, budd-daliadau, cyllid a chyflogaeth.
Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Mae Swyddogion Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor hefyd yn mynychu cyfarfodydd grŵp cymorth yn wythnosol.
Cymuned y Lluoedd Arfog, Ddoe a Heddiw: Cymorth sydd ar gael
Dros y blynyddoedd diweddar, mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i'r Gwarchodlu Cymreig a'r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, a holl bersonél Yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol.
Ffoniwch Garfan Lluoedd Arfog y Cyngor ar 07747 485 619 neu E-bostiwch:
Wedi ei bostio ar 30/03/2023