Skip to main content

Ymgynghoriad lleol ar welliannau i Lwybr Taith Taf yn Nhrallwn

Active Travel consultation

Dyma wahodd trigolion i ddweud eu dweud ar yr opsiynau posibl i addasu rhan o Lwybr Taith Taf yn Nhrallwn. Diben yr addasiad i'r llwybr yw gwella diogelwch i gerddwyr a beicwyr, gwneud y llwybr yn haws i’w ddilyn a hyrwyddo'r llwybr i gymunedau cyfagos.

Yn union fel pob Cyngor arall yng Nghymru, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno Map Rhwydwaith Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru, ac yn rhan o'r broses yma, nododd y Cyngor fod angen gwella'r rhan yma o Lwybr Taith Taf.  Mae’r map yn dangos llwybrau cerdded a beicio presennol, yn ogystal â llwybrau arfaethedig yr hoffai’r Cyngor eu datblygu yn y dyfodol i greu rhwydwaith Teithio Llesol cynhwysfawr.

Mae aliniad presennol Llwybr Taith Taf drwy'r ardal benodol yma yn dilyn llwybrau gwahanol ar gyfer teithiau tua’r gogledd a thua’r de, yn unol â'r holl heolydd unffordd lleol. Er bod arwyddion yn arwain defnyddwyr Llwybr Taith Taf ar hyd strydoedd lleol, dydy rhan o'r llwybr ddim yn amlwg, a gallai fod yn anodd ei ddilyn i bobl sy ddim yn gyfarwydd â’r ardal.

Penododd y Cyngor gwmni WSP i gynnal astudiaeth o'r opsiynau gwahanol byddai modd eu hystyried i wella'r llwybr drwy Drallwn. Megis dechrau y mae’r broses ddylunio, a bydd yr opsiynau'n cael eu hystyried yn ofalus. Un o'r ystyriaethau fydd adborth y gymuned yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus.

Mae’r broses ymgynghori bellach yn mynd rhagddo, ac mae modd i drigolion gael rhagor o fanylion a dweud eu dweud ar wefan y Cyngor erbyn dydd Gwener, 7 Ebrill. Mae dau opsiwn wedi’u cynnig i wella llwybrau Taith Taf trwy Drallwn, ac mae cynlluniau manwl o'r ddau opsiwn ar y wefan.

Opsiwn 1 yw adlinio'r llwybr ar hyd pont droed yr A470 yn Heol y Ffowndri. Byddai'r opsiwn yma'n adlinio'r llwybr cerdded ar hyd rhannau o Heol Coedpenmaen a Stryd y Bont ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Byddai pont droed yr A470 yn cael ei gwella neu ei hailosod, ac mae cynnig i osod goleuadau ar hyd y lôn sy'n rhedeg y tu ôl i'r ysgol. Byddai'r heol lle mae Ffordd Coedpenmaen yn cwrdd â'r A470 hefyd yn cael ei lledu a byddai'r croesfannau ar ffyrdd ymuno ac ymadael yr A470 yn cael eu huwchraddio.

Opsiwn 2 yw adlinio'r lwybr ar hyd tanffordd yr A470 ym Maes Doddington. Byddai'r opsiwn yma'n lledu'r llwybr cerdded ar hyd rhannau o Heol Coedpenmaen a Stryd y Bont ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Byddai’r llwybr wedyn yn teithio tua’r dwyrain ar gyffordd Heol Coedpenmaen /Maes Doddington, gan fynd o dan yr A470 ar hyd Heol Scarborough a Heol Llanofer. Yna, byddai modd i'r llwybr naill ai barhau o flaen yr ysgol i gwrdd â Heol y Comin, neu ddefnyddio’r lôn y tu ôl i'r ysgol i gysylltu â Chlos Coedpenmaen. Fel yn Opsiwn 1, byddai’r ffyrdd sy'n arwain at gylchfan yr A470 a mannau croesi slipffordd yr A470 yn cael eu huwchraddio.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Mae’r rhan o Lwybr Taith Taf yn Nhrallwn yn ddolen gyswllt bwysig yn rhwydwaith Teithio Llesol o amgylch Pontypridd. Byddai'r gwelliannau sy wedi'u nodi'n darparu taith fwy uniongyrchol i ddefnyddwyr Llwybr Taith Taf, yn gwneud y llwybr yn gliriach i’r rhai sy ddim yn gyfarwydd â’r ardal, ac yn gwella mynediad i ymwelwyr i ardaloedd poblogaidd cyfagos, megis Canol Tref Pontypridd, Parc Coffa Ynysangharad a Lido Ponty.

“Mae nifer o fanteision yn gysylltiedig ag annog mwy o bobl i gerdded neu feicio yn ystod eu teithiau bob dydd – o wella’r amgylchedd i leihau traffig ac amseroedd teithio, a gwella iechyd a lles pobl. Felly, mae’n bwysig iawn cadw llygad ar ein llwybrau lleol a'u gwella – ac mae modd i drigolion weld Map y Rhwydwaith Teithio Llesol diweddaraf ar wefan y Cyngor.

“Mae’r ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i Lwybr Taith Taf yn Nhrallwn bellach yn mynd rhagddo, ac mae gwahoddiad i drigolion sydd â diddordeb i ddysgu rhagor a chymryd rhan cyn y dyddiad cau ar 7 Ebrill. Bydd y broses yn canolbwyntio ar y ddau opsiwn sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer Llwybr Taith Taf. Bydd yr adborth sy'n dod i law yn helpu swyddogion i siapio’r cynllun wrth symud ymlaen ac yn gymorth i gwblhau’r opsiwn sy'n dod i'r brig.”

Wedi ei bostio ar 23/03/23