Skip to main content

Cyllid sylweddol ar gyfer rhaglen gyfalaf priffyrdd a thrafnidiaeth

Highways Capital Programme - Copy

Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno ar raglen gyfalaf gwerth £27.665 miliwn ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn y flwyddyn ariannol 2023 i 2024. Mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn y meysydd â blaenoriaeth yma.

Cymeradwyodd y Cabinet y rhaglen yn ei gyfarfod ddydd Llun, 27 Mawrth, gan ddyrannu cyfalaf gwerth £10.725 miliwn (Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd) a £16.940 miliwn (Cynlluniau Strategol) ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau 1 Ebrill, 2023. Bydd y cyllid yn helpu i gynnal, atgyweirio, gwella a diogelu rhwydwaith priffyrdd a thrafnidiaeth Rhondda Cynon Taf ar gyfer y dyfodol. Mae'r buddsoddiad wedi'i dargedu i ymateb i ofynion teithio newidiol pobl ac effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae'r rhaglen yn ategu cyllid allanol sylweddol sydd ar gael ar gyfer nifer o feysydd. Mae rhaglen waith wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru i atgyweirio pontydd, ffyrdd, cwlfertau a waliau cynnal yn sgil Storm Dennis yn parhau yn 2023 a 2024. Mae hyn ynghyd ag archwiliadau gwell, gwaith cynnal a chadw a gwaith adfer sylweddol ar domenni glo sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.

Mae ceisiadau hefyd wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer nifer o gynlluniau a mentrau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys menter Teithio Llesol, cyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya, cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a chynlluniau cyfalaf eraill sy'n cael eu hariannu gan y Gronfa Trafnidiaeth Leol, ynghyd â chyllid refeniw ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd.

Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i fod yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r gwaith darparu Metro De Cymru. Mae’r cynllun Metro gwerth £50 miliwn yn mynd rhagddi, a bydd Hwb Trafnidiaeth Porth yn cael ei gwblhau yn 2023.

Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd (£10.725 miliwn)

Mae'r rhaglen wedi dyrannu £4.014 miliwn ar gyfer ffyrdd cerbydau. Mae’n cynnwys cyllid sylweddol i gynnal ymchwiliadau manwl, gwaith dadansoddi a datblygu cynigion i fynd i’r afael â difrod i'r rhwydi cerrig a gafodd ei achosi gan dân ar Ffordd Mynydd y Rhigos. Mae hefyd yn cynnwys cronfa o gynlluniau ail-wynebu ffyrdd sydd eisoes wedi'u cytuno arnyn nhw, gan gynnwys 41 o  gynlluniau ychwanegol sydd wedi'u rhestru'n rhan o Atodiad i adroddiad y Cabinet ddydd Llun.

Yn ogystal â hyn, mae £486,000 wedi'i ddyrannu ar gyfer adnewyddu llwybrau troed, sy'n cynnwys cronfa o gynlluniau sydd eisoes wedi'u cytuno arnyn nhw, ac 20 o gynlluniau ychwanegol sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad. Ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu,  mae £300,000 wedi'i ddyrannu i ymestyn y rhaglen i bum cynllun arall, yn Nhonyrefail, Ystrad, Llwydcoed, Penrhiw-fer a Hirwaun. Bydd £540,000 o gyllid wedi'i ddyrannu yn cael ei wario ar oleuadau stryd ac adnewyddu goleuadau traffig.

Bydd cyfanswm cyllideb y Rhaglen Strwythurau Priffyrdd, sef £4.45 miliwn, yn cyfrannu at gynlluniau gan gynnwys Pont Bodringallt (Ystrad), Pont Imperial (Porth), Pont Graig Las (Hendreforgan), Pont Lanelay (Tonysguboriau) a rhwydi cerrig Ffordd y Rhigos (Blaenrhondda). Mae'r cyllid hefyd yn cynnwys nifer o atgyweiriadau i waliau cynnal a chwlfertau mewn mannau cyfyng.

Bydd gwerth £250,000 o gyllid newydd, yn ogystal â dyraniad gwerth £530,000 sydd eisoes wedi'i gytuno arno ar gyfer Strwythurau Parciau yn helpu â'r gwaith sylweddol o adnewyddu pont droed Stryd y Lofa yn Nhrehafod a phrosiectau eraill.

Yn ogystal â hyn, mae cyllid ar gyfer cynlluniau rheoli traffig ar radda fach (£110,000), a gwaith parhaus i atgyweirio a gwella meysydd parcio (£45,000).

Cyfanswm gwerth y rhaglen waith atgyweirio yn sgil Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf yw £20.1 miliwn y flwyddyn nesaf. Mae hyn wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae cynlluniau allweddol yn cynnwys pont newydd yn Castle Inn yn Nhrefforest, Heol Berw (y bont wen) ym Mhontypridd, pont droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail a phont droed y pibellau cyflenwi yn Abercynon. Mae rhestr lawn o gynlluniau wedi'i chynnwys yn rhan o Atodiad i adroddiad y Cabinet.

Cynlluniau Strategol (£16.940 miliwn)

Mae'r Cyngor yn elwa'n gyson ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau draenio'r tir a pherygl llifogydd, gan roi arian cyfatebol sy'n 15% o'r gwerth. Mae cyfres o geisiadau am gyllid newydd wedi'u cyflwyno ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024. Mae'r rhestr lawn o gynlluniau a fyddai'n elwa ar y cyllid yma wedi'i chynnwys yn adroddiad y Cabinet. Mae ceisiadau cyllid hefyd wedi'u cyflwyno ar gyfer grantiau Gwaith ar Raddfa Fach a'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth, ac mae'r Cyngor wedi dyrannu £750,000 ar gyfer ei raglen gwella draenio'r tir a pherygl llifogydd ei hun.

Cyfanswm y dyraniad ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yw £16.1 miliwn. Mae hyn yn cynnwys dyrannu £8.127 miliwn i gynllun deuoli'r A4119 yng Nghoed-elái, a fydd yn ategu cyllid sylweddol o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU sydd eisoes wedi'i sicrhau. Dylai'r cynllun ddod i ben ar amser yn 2023.

Mae dau gynllun allweddol, sef  Ffordd Gyswllt Llanharan a Phorth Gogledd Cwm Cynon, yr A465, wedi'u cynnwys yn rhan o adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru. Doedd diweddariad i'r adolygiad ym mis Chwefror 2023 ddim yn ffafrio'r cynlluniau, ond mae dal angen atebion i fynd i’r afael â heriau traffig a thrafnidiaeth yn y ddwy ardal. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar hyn, ac mae wedi dyrannu £5.058 miliwn (Llanharan) ac £1.351 miliwn (Cwm Cynon) i fwrw ymlaen â mentrau i ddatrys y problemau yma.

Yn ogystal â hyn, mae £730,000 wedi'i ddyrannu i'r Rhaglen Parcio a Theithio i greu lleoedd parcio ychwanegol mewn gorsafoedd rheilffordd ochr yn ochr â’r Metro. Bydd cyllid gwerth £544,000 ar gyfer cynllun Gwneud Defnydd Gwell yn targedu gwelliannau cost isel a gwerth uchel i lif y traffig, gyda pheth o'r cyllid yma wedi'i glustnodi ar gyfer coridor yr A4059. Bydd cyllid gwerth £363,000 yn mynd tuag at waith ymchwil pellach i ddatrys heriau'r rhwydwaith ffyrdd yng Nghwm Rhondda Fawr, yn enwedig yn Stag Square, Treorci.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Bob blwyddyn mae ein Rhaglen Gyfalaf yn nodi ac yn darparu cyllid sylweddol ar gyfer cynlluniau Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn feysydd â blaenoriaeth, ac mae mwy na £27.6 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn ar wahân i gyllid allanol y mae disgwyl i ddod i law ar gyfer meysydd allweddol megis lliniaru llifogydd a menter Teithio Llesol, a’r rhaglen atgyweiriadau yn sgil Storm Dennis gwerth £20.1 miliwn sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i darparu gan y Cyngor. Mae hyn yn golygu y bydd gwelliannau enfawr ledled ein cymunedau yn 2023 a 2024.

“Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu dyrannu bron i £5 miliwn ar gyfer gosod wynebau newydd ar y ffyrdd, adnewyddu llwybrau troed a ffyrdd heb eu mabwysiadu y flwyddyn nesaf, gan barhau â'n dull ariannu cyflymach o gynnal a chadw ffyrdd. Mae hyn wedi sicrhau bod cyflwr ein ffyrdd wedi gwella'n fawr dros nifer o flynyddoedd. Canran yr holl ffyrdd dosbarthiadol lleol a oedd angen gwaith cynnal a chadw yn 2022 a 2023 oedd 4.1%, o'i chymharu â 15.7% yn 2010 a 2011. Mae'r duedd yma'n parhau ar gyfer ffyrdd 'A' (16.2% i 3.7%), ffyrdd 'B' (15.2% i 5.7%) ac 'C' (15.3% i 3.7%) dros y 13 mlynedd diwethaf.

“Mae mwy na £5 miliwn hefyd wedi'i ddyrannu ar gyfer parciau a strwythurau priffyrdd. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw mwy na 1,500 o waliau, cwlfertau a phontydd sy’n cynnal ein rhwydweithiau ffyrdd ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd y cyllid ar wahân ar gyfer atgyweiriadau yn sgil Storm Dennis hefyd yn cyfrannu at lawer o gynlluniau sylweddol, gan gynnwys y bont wen ym Mhontypridd a'r bont droed yn Castle Inn yn Nhrefforest.

“Bydd cyllid y Cyngor yn parhau i ariannu cynllun deuoli Coed-elái ar yr A4119 yn 2023 a 2024, wrth i waith fynd rhagddo tuag at ei gwblhau yr haf nesaf. Bydd hefyd yn ariannu'r Rhaglen Parcio a Theithio i gynyddu’r lleoedd parcio mewn gorsafoedd rheilffordd tra bod gwaith ar y Metro yn mynd rhagddo. Mae Hwb Trafnidiaeth Porth yn rhan o gynllun ehangach y Metro, a bydd yn cael ei gwblhau yr haf yma.

“Yn dilyn cytundeb Aelodau’r Cabinet ddydd Llun, bydd y Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol newydd yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor i’w chyflawni drwy gydol blwyddyn ariannol 2023 a 2024.”

Wedi ei bostio ar 28/03/2023