Mae cynllun lliniaru llifogydd mawr bellach wedi'i gwblhau yn Abercwmboi gyda chyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith wedi lleihau'r risg o lifogydd i eiddo ar hyd y ffordd fawr yn Nheras Bronallt.
Y llynedd, roedd y Cyngor wedi sicrhau cyllid i gyflawni Cynllun Lliniaru Llifogydd Bronallt Uchaf yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023. Defnyddiodd arian Llywodraeth Cymru a oedd ar gael ar gyfer cynlluniau o'r fath i ddiogelu cymunedau lleol rhag y perygl o lifogydd. Dechreuodd y Cyngor a'r is-gontractwr Hammonds Ltd ar y gwaith yr haf diwethaf.
Aeth y gwaith rhagddo ger y ffordd ddienw (cyfochrog â'r B4275) ar bwys Bythynnod y Pwll. Cafodd y cynllun ei adeiladu ar gwrs dŵr sy'n rhedeg trwy ardal o gefn gwlad ac yn mynd trwy'r seilwaith draenio presennol.
Mae'r buddsoddiad wedi caniatau adeiladu pwll gwanhau mawr (yn y llun) ar hyd y cwlfert presennol, gan gynyddu cynhwysedd y seilwaith yn sylweddol. Bydd y pwll yn casglu dŵr ac yn ei ryddhau'n araf i'r system ddraenio yn ystod glaw trwm – gan leihau'r risg y bydd y cwrs dŵr yn dod o dan ormod o bwysau. Ymhellach i lawr yr afon bydd yn diogelu eiddo yn Nheras Bronallt.
Mae'r cynllun hefyd wedi darparu man rheoli malurion, a mynediad gwaith gwell i'r cwrs dŵr i helpu gyda chynnal a chadw'r safle yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Rwy’n falch bod y cynllun mawr yma i liniaru llifogydd yn Abercwmboi bellach wedi’i gwblhau. Bydd yn darparu amddiffyniad a sicrwydd pwysig yn ystod stormydd yn y dyfodol i gartrefi a busnesau lleol ymhellach i lawr yr afon yn Nheras Bronallt.
“Rydyn ni'n croesawu cyllid sylweddol ar gyfer y cynllun gan Lywodraeth Cymru, ac yn parhau i gydweithio i gyflawni prosiectau wedi'u targedu i liniaru llifogydd yn ein cymunedau. Yn 2022/23, cawson ni gyllid sylweddol oddi wrth y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd, y Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach a'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Rydyn ni hefyd wedi gwneud cais am gyllid sylweddol yn 2023/24, i barhau â'n rhaglen garlam ledled y fwrdeistref sirol.
“Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Bronallt Uchaf yn Abercwmboi wedi gosod pwll gwanhau yn y cwrs dŵr presennol, a fydd yn casglu dŵr pan fydd yn bwrw glaw'n drwm ac yn lleihau cyfaint y dŵr y mae angen i’r rhwydwaith draenio ei reoli ar un adeg. Agwedd bwysig arall ar y gwaith oedd sefydlu mynedfa bwrpasol fel bod modd cynnal a chadw'r safle yn haws yn y dyfodol.
“Hoffwn i ddiolch i drigolion am eu cydweithrediad yn ystod y misoedd roedd y gwaith yn mynd rhagddo er mwyn i ni gyflawni’r gwaith gwella hanfodol yma i’r gymuned.”
Wedi ei bostio ar 28/03/2023