Skip to main content

DIM CHWARAE BUDR AR EIN CAEAU CHWARAEON!

Dim chwarae BUDR yw'r neges gan glwb rygbi a phêl-droed poblogaidd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Clwb y Rhondda yn tynnu sylw at y problemau y mae modd i gŵn ar gaeau eu hachosi, ac maen nhw eisiau i berchnogion cŵn anghyfrifol wrando ar beth yw'r goblygiadau peryglus o adael i'w cŵn faeddu ar gaeau.

Mae clwb rygbi a phêl-droed Tylorstown wedi ymuno â Chyngor Rhondda Cynon Taf i fynd i'r afael â'r mater. Croesawodd Jason Cook, y Swyddog Diogelu Rygbi, swyddogion Gorfodi'r Cyngor i sesiwn hyfforddi yn ddiweddar er mwyn helpu i atal perchnogion cŵn anghyfrifol rhag gadael eu cŵn i grwydro neu faeddu ar neu yn agos i'r cae.

Fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf gyflwyno mesurau mwy llym i fynd i'r afael â baw cŵn ar gaeau chwaraeon CHWE blynedd yn ôl, a hynny drwy roi Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) ar waith.

Fydd y Cyngor DDIM yn goddef perchnogion anghyfrifol sy'n gadael i'w cŵn faeddu ar ei gaeau chwaraeon! Y Cyngor oedd y cyntaf yng Nghymru i gyflwyno mesurau rheoli llym o ran rheoli cŵn.

    

Meddai Jason Cook, "Rydyn ni wedi gorfod clirio baw cŵn oddi ar y cae cyn i'r plant chwarae, sydd ddim yn deg! Os yw'r plant yn chwarae ac yn cael clwyf agored, a bod baw cŵn ar y cae, gallen nhw golli coes.

"Mae llawer o deuluoedd yn dod yma gyda'u cŵn ac maen nhw'n dilyn y canllawiau. Maen nhw'n eu cadw nhw oddi ar y cae, a dyna rydyn ni ei eisiau. Mae croeso i bawb, ac rydyn ni eisiau iddyn nhw deimlo yn rhan o'r clwb, ond dilynwch y rheolau!

"Rydyn ni eisiau i bawb fod yn effro i'r effaith y mae modd i faw cŵn ei gael ar ein plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, boed hynny'n rygbi, pêl-droed neu unrhyw chwaraeon arall ar gae. Gallai fod yn eu plentyn nhw sy'n chwarae ar y cae, a gallen nhw gael haint brwnt neu hyd yn oed colli coes neu fraich! Dyw hynny ddim yn neis!"

Hyd yn oed oes caiff baw cŵn ei godi oddi ar gae chwaraeon, bydd y gweddillion ar y gwair a’r pridd o hyd. Mae hyn yn ffiaidd a gallai arwain at ganlyniadau newid bywyd ar iechyd rhywun, fel y mae rhai pobl anlwcus wedi'i ganfod, gan gynnwys chwaraewyr pêl-droed ifainc.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae ein caeau chwaraeon a'n ardaloedd dan gyfyngiadau yn bwysig yn ein cymunedau a chânt eu defnyddio gan bobl o bob oed drwy'r dydd a'r nos.

"Hoffwn i ddiolch i Jason am adael i'r Cyngor fynychu'r sesiynau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth o'r broblem bwysig yma. Mae'r garfan gorfodi yma i gefnogi ein clybiau chwaraeon a gyda'n gilydd, gobeithio y gallwn ni roi terfyn ar y broblem, sy'n rhy aml o lawer, yn newid bywydau. "Dyw llawer o berchnogion cŵn ddim yn sylweddoli beth yw'r goblygiadau o adael eu cŵn i ddefnyddio'r ardaloedd yma. Mae modd i'r goblygiadau iechyd a achosir gan faw cŵn gyfyngu ar fywyd. Rydw i'n siŵr y byddai llawer o'n perchnogion cŵn ddim yn gallu maddau iddyn nhw eu hunain pe bai bywyd plentyn yn newid am byth oherwydd eu ci nhw.

“Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol, ond dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon.

"Mae'n ddolur llygad ac mae â goblygiadau iechyd difrifol i'r gymuned. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu'r broblem yma.

“Fel y soniodd Jason, mae’n rhaid i lawer o glybiau chwaraeon dreulio oriau cyn eu gemau yn glanhau eu caeau er mwyn amddiffyn eu chwaraewyr, a hynny gan fod perchnogion cŵn diog ddim yn dilyn y rheolau.

"Byddai'n well gyda ni weld Bwrdeistref Sirol sy'n llawn perchnogion cŵn cyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon, y gellid osgoi hynny yn hawdd pe baem ni i gyd yn dilyn y negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac ymddwyn yn gyfrifol. Mae'r rheolau yn amddiffyn pawb sydd am fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd."

Bydd staff Gorfodi Gofal y Strydoedd hefyd yn gweithio oriau estynedig i sicrhau y bydd dim modd i berchnogion cŵn anghyfrifol ddod o hyd i unrhyw le i guddio – hyd yn oed ar ôl iddi dywyllu!

Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i glybiau chwaraeon roi gwybod am unrhyw broblemau ac achosion o faw cŵn ar y caeau trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni eu cefnogi a chydweithio er diogelwch y chwaraewyr.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/ciamdro

Wedi ei bostio ar 24/03/2023