Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) y Cyngor ar daith ac mae allan yn ein cymunedau yn darparu gweithgareddau a chymorth i bobl ifainc.
Mae pedwar 'clwb ieuenctid teithiol' llawn offer yn ymweld ag ardaloedd ledled y Fwrdeistref Sirol yn rheolaidd, gyda'r nos, ar ôl yr ysgol ac yn ystod gwyliau'r ysgol. Byddan nhw’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn ogystal â threfnu gweithgareddau i gyd-fynd â chlybiau ieuenctid yr Awdurdod Lleol a sefydliadau gwirfoddol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: “Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, mae hybiau teithiol y Gwasanaeth Ieuenctid a Chyfranogiad wedi cael cefnogaeth dda, gan ddarparu rhwydwaith gwerthfawr i’n pobl ifainc.
“Mae’r cerbydau yma'n cynnig cyngor a chymorth i’r bobl yma, ac maen nhw wrth law i gynnig arweiniad os oes angen yn ogystal â chymorth iechyd meddwl a lles.
“Mae’r hybiau teithiol yn estyn allan i’n pobl ifainc yn ein cymunedau ac mae’n ymddangos eu bod wedi cael eu croesawu’n frwd ble bynnag maen nhw’n parcio.”
Mae'r cerbydau yma wedi'u gwresogi ac mae ganddyn nhw ardaloedd eistedd, cysylltiadau gliniaduron, Wi-Fi am ddim a sgriniau teledu. Maen nhw hefyd yn gallu cynnal clybiau ieuenctid cyffredinol a chyfleoedd i ymgynnull, sesiynau chwarae gemau, celf a chrefft, nosweithiau ffilm a gweithgareddau chwaraeon.
Dyma'r lle delfrydol i fwynhau amser hamdden mewn amgylchedd diogel wrth wneud ffrindiau newydd ar yr un pryd.
Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid hefyd wrth law i gynnig darpariaeth wedi'i thargedu megis cymorth i ysgrifennu braslun bywyd (CV), cymorth i wneud cais am swydd, technegau cyfweld a chymorth un-i-un gan weithiwr ieuenctid mewn man cyfrinachol os oes angen.
Mae'r cerbydau hefyd yn gweithredu fel canolfannau ar gyfer y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid mewn achlysuron cymunedol mawr. Mae modd eu defnyddio hefyd pan fo'r Gwasanaeth angen ymateb ar unwaith mewn cymunedau penodol i ddarparu cymorth i bobl ifainc ar adegau o argyfwng os oes angen.
Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor yn darparu'r Gwasanaeth Ieuenctid statudol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yma'n cael ei ddarparu gan weithlu o staff cymwys sy'n cynnwys gweithwyr mewn ysgolion, gweithwyr ieuenctid yn y gymuned, carfanau gwaith ieuenctid arbenigol a staff rhan-amser medrus.
Dyma ragor o wybodaeth am Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid RhCT
Mae modd i chi hefyd ddilyn y Gwasanaeth ar Facebook a Twitter.
Wedi ei bostio ar 20/03/2023