Skip to main content

Cyllid mawr wedi'i gytuno i gynnal adeiladau ysgolion y flwyddyn nesaf

Primary 2 schools generic

Mae’r Cabinet wedi cymeradwyo rhaglen gwerth £5.808 miliwn er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw, gwaith cyffredinol a gwaith atgyweirio i ysgolion lleol y flwyddyn nesaf. Mae'r Cabinet hefyd wedi cymeradwyo gwelliannau ychwanegol i ysgolion gan ddefnyddio cyllid ar wahân gwerth £4.052 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn gwneud gwelliannau pwysig yn ei ysgolion i sicrhau bod yr adeiladau'n parhau i fod yn ddiogel, yn dal dŵr ac yn gynnes. Mae llawer o'r gwaith yma'n digwydd yn ystod gwyliau haf yr ysgol. Cafodd cyllid gwerth £5.808 miliwn ei ddyrannu'n flaenorol gan y Cyngor Llawn ar gyfer rhaglen gyfalaf y flwyddyn nesaf.

Roedd adroddiad Swyddog i'r Cabinet ddydd Llun, 27 Mawrth, yn cynnig Rhaglen Gyfalaf Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant arfaethedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2023 i 2024, gan nodi sut y byddai modd dyrannu'r cyllid yma sydd werth £5.808 miliwn. Nododd yr adroddiad hefyd fod arian cyfalaf ychwanegol gwerth £4.052 miliwn ar gael gan Grant Cyllido Cyfalaf Llywodraeth Cymru. Bydd modd defnyddio'r arian yma'r flwyddyn nesaf ar gyfer y blaenoriaethau sy'n cael eu nodi gan awdurdodau lleol.

Mae rhaglenni ar gyfer y ddau lwybr ariannu bellach wedi’u cytuno gan y Cabinet, i’w cyflawni yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau 1 Ebrill, 2023. Mae'r rhestr lawn o brosiectau wedi'u cynnwys yn Atodiadau’r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Llun, gyda chrynodeb wedi'i gynnwys isod:

Gwaith Cyfalaf Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant gwerth £5.808 miliwn

Adnewyddu ceginau (£280,000). Bydd y gwaith yma'n mynd rhagddo mewn chwe ysgol. Bydd y cynlluniau mwyaf yn digwydd yn Ysgol Tŷ Coch (safle Buarth y Capel), Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru (Aberdâr) ac Ysgol Gyfun Aberpennar.

Gosod ffenestri neu ddrysau newydd (£110,000). Bydd y gwaith yma'n cael ei gwblhau yn Ysgol Gynradd Maes-y-Coed, Ysgol Iau Ton ac Ysgol Gynradd y Parc.

Gwaith hanfodol (£420,000). Bydd gwaith hanfodol yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Addysg Amgen ym Mhontypridd, Ysgol Gynradd Maes-y-coed, Ysgol Gynradd Penderyn, Ysgol Gynradd y Parc, Ysgol Garth Olwg, Ysgol Gynradd Gwauncelyn, Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon ac Ysgol Gynradd Gymuned Glenbói. Mae'r gwaith yn amrywio o atgyweirio waliau cynnal i waith draenio, gosod canopi newydd, adnewyddu neuadd, ac atgyweirio gwaith maen allanol.

Adnewyddu toiledau (£250,000). Bydd y gwaith yma'n mynd yn ei flaen mewn pum ysgol leol – Ysgol Gynradd y Gelli, Ysgol Gynradd Maes-y-coed, Ysgol Fabanod Ton Pentre, Ysgol Iau Ton Pentre ac Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain

Boeleri newydd (£412,000). Bydd gwaith i osod boeleri yn cael ei gwblhau mewn pedair ysgol leol – Ysgol Gynradd Cwmlai, Ysgol Gynradd Caradog, Ysgol Gynradd yr Hafod ac Ysgol Gyfun Bryncelynnog, ynghyd â gwaith brys angenrheidiol mewn ysgolion amrywiol.

Gwaith adnewyddu toeau (£844,000). Bydd y gwaith yma'n mynd rhagddo yn Ysgol Gynradd Meisgyn (gwaith cam 2), Ysgol Gynradd yr Hafod, Ysgol Fabanod Ton, Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James (gwaith cam 2), Ysgol Gynradd Cwmlai ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf.

Gwaith Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb (£1.824 miliwn). Bydd y gwaith yma'n cynnwys adnewyddu neu adleoli ceginau i hwyluso'r gwaith o drosglwyddo i'r ddarpariaeth newydd i bawb. Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn, Ysgol Gynradd Llanhari, YGG Evan James, Ysgol Gynradd y Parc, Ysgol Gynradd Parc Aberdâr, Ysgol Gynradd Pengeulan, Ysgol Gynradd Cwmdâr, Ysgol Gynradd Penrhiw-ceibr, Ysgol Gynradd Trehopcyn ac Ysgol Gynradd Maes-y-Coed.

Categorïau eraill y rhaglen gyfalaf. Mae'r rhain yn cynnwys uwchraddio ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Gynradd Pen-rhys, uwchraddio larymau tân, ailwefrio trydan, Deddf Cydraddoldeb/gwaith Cydymffurfio a chaledwedd/meddalwedd TG a thrwyddedau.

Grant Cyllido Cyfalaf Llywodraeth Cymru gwerth £4.052

Ysgol Arbennig Maesgwyn (£1.5 miliwn). Bydd yr ysgol yn elwa ar estyniad newydd sy’n cael ei adeiladu ar safle’r ysgol bresennol, i ddarparu ar gyfer y twf sylweddol yn nifer y disgyblion.

Ysgol Uwchradd ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen (£90,000). Bydd y ddwy ysgol yn cael eu hailfodelu a'u hadnewyddu i ategu buddsoddiad Band B Llywodraeth Cymru gan greu ysgol pob oed 3-16 newydd ar gyfer y Ddraenen Wen.

Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman (£300,000). Bydd yr ysgol yn derbyn gwell cyfleusterau ac amgylcheddau dysgu.

Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen (£150,000). Bydd yr ysgol yn derbyn Ardal Chwaraeon Amlddefnydd, ac ardald awyr agored a fydd ar gael at ddefnydd y gymuned.

Ysgol Gymunedol Glynrhedynog (£250,000) ac Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant (£150,000). Bydd y ddwy ysgol yn cael to newydd (gwaith cam 2).

Ysgol Gynradd Coed-y-Lan (£100,000). Bydd yr ysgol yn derbyn gwell cyfleusterau.

Ysgol Gynradd Brynnau (£50,000). Bydd gwaith trwsio’r to yn mynd rhagddo.

Llwybrau Teithio'r Disgyblion (£500,000). Byddgwelliannau'n cael eu cyflwyno i briffyrdd lleol a llwybrau i gerddwyr, i gefnogi ein hysgolion newydd a'n hysgolion presennol.

Mentrau effeithlonrwydd ynni a lleihau carbon (£152,000). Bydd y mentrau yma'n cael eu cyflwyno ar ystod o safleoedd ysgol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Rwy’n falch bod y Cabinet bellach wedi cytuno ar fanylion rhaglen gwaith cyfalaf y Cyngor ar gyfer ysgolion lleol yn 2023 i 2024, yn ogystal â’r Grant Cyllid Cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Gan gyfuno’r llwybrau ariannu yma, bydd ein hysgolion ni'n elwa ar bron i £10 miliwn mewn gwelliannau'r flwyddyn nesaf.

“Bydd y rhaglen gyfalaf yn manteisio ar wyliau’r haf i gyflwyno’r rhan fwyaf o welliannau heb unrhyw darfu ar addysg y disgyblion. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau bod amgylcheddau ein hysgolion yn ddiogel ac yn addas at y diben, gan amrywio o adnewyddu ffenestri, drysau, larymau tân, boeleri a thoiledau. Mae’n ategu’r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ehangach, a fydd yn buddsoddi £75.6 miliwn mewn ysgolion ledled ardal Pontypridd yn y blynyddoedd nesaf, yn ogystal ag adeiladau cynradd newydd yng Nglynrhedynog, Pont-y-clun, Pentre’r Eglwys a Llantrisant.

“Bydd Grant Cyllid Cyfalaf Llywodraeth Cymru hefyd yn targedu amrywiaeth eang o gynlluniau lleol. Ymhlith y buddsoddiadau nodedig mae estyniad newydd i Ysgol Arbennig Maesgwyn er mwyn ymateb i niferoedd cynyddol o ddisgyblion; adnewyddu ac ailfodelu yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen i gefnogi'r ysgol 3-16 newydd i'r gymuned a fydd yn cael ei chyflwyno 2024; ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd a man awyr agored cymunedol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen.

“Mae’r buddsoddiad cyfunol o bron i £10 miliwn bellach wedi’i gytuno gan y Cabinet, gan ategu ein hymrwymiad i wneud gwelliannau sylweddol i ansawdd adeiladau ein hysgolion bob blwyddyn. Bydd y cyllid yma'n helpu ein hysgolion i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n cynrychioli rhan allweddol o’n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. Bydd y gwaith hefyd yn defnyddio cyflenwyr ac adeiladwyr lleol lle bo modd, i gefnogi busnesau cymunedol.”

Wedi ei bostio ar 30/03/2023