Skip to main content

Gwaith yn mynd rhagddo yn yr ardd isel, Parc Coffa Ynysangharad

Ynysangharad Park sunken garden

Bydd ymwelwyr i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd yn effro i’r ffaith bod y gwaith gwella parhaus sylweddol bellach wedi symud ymlaen i ardal yr ardd isel.

Bydd y buddsoddiad gwerth £1.9 miliwn yn atgyweirio'r safle seindorf a'r ardal o'i gwmpas, gosod arwyddion newydd, ac yn darparu canolfan hyfforddiant a gweithgareddau, ac achlysuron newydd i hyrwyddo treftadaeth leol.

Yn rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn y parc, mae’r ardd isel wedi cael ei chau i’r cyhoedd ac mae mynediad ati wedi'i rwystro. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ardal yn parhau'n ddiogel o ganlyniad i gyflwr wal yn yr ardd.

Bydd atgyweiriadau i'r strwythur yma'n cael eu cwblhau’n rhan o'r gwelliannau, ynghyd â gwaith ailbwyntio'r palmant.

Mae'r buddsoddiad yn cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan y Cyngor a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Wedi ei bostio ar 31/03/23