Skip to main content

Gŵyl Aberdâr 2023

RCT_Aberdare_Festival_2023-7094

Gŵyl Aberdâr 2023

Roedd y tywydd yn ddiflas ond doedd yr awyrgylch yng Ngŵyl Aberdâr ddydd Sadwrn 6 Mai ddim yn ddiflas o gwbl!

Yn ôl rhagolygon y tywydd, roedd glaw, glaw a rhagor o law ar y ffordd felly roedd Carfan Be'sy mlaen RhCT wedi gweithio’n galed yn ystod y diwrnodau cyn achlysur blynyddol poblogaidd Cwm Cynon i newid y cynlluniau'n sylweddol er mwyn sicrhau y byddai modd cynnal cymaint o'r adloniant oedd wedi'i gynllunio â phosibl.

Doedd yr awyr gymylog na'r glaw ddim yn gallu difetha hwyl trigolion ac ymwelwyr wrth iddyn nhw fwynhau cerddoriaeth fyw gan berfformwyr teyrnged, ynghyd â pherfformwyr lleol LA Performance Academy a Studio Streetwise a ddaeth â'u cefnogwyr gyda nhw!

Roedd yr ymwelwyr iau wrth eu boddau gyda'r sioe deinosoriaid a sgiliau syrcas, ac roedd y trên tir yn cludo ymwelwyr o amgylch yr achlysur. Ac i orffen y diwrnod, roedd modd gwylio Matilda the Musical gan Roald Dahl yn y sinema awyr agored. Mae detholiad o luniau o'r diwrnod ar gael ar www.gwylaberdar.co.uk ac ar gyfrif Be'sy mlaen RhCT (whatsonrct) ar Facebook.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae Gŵyl Aberdâr wedi dod yn un o uchafbwyntiau calendr achlysuron Parc Aberdâr. Fel aelod o Gyfeillion Parc Aberdâr, mae'n wych gweld y parc hyfryd yma'n llawn pobl yn mwynhau'r hyn sydd ganddo i'w gynnig. Mae'r parc hefyd yn cynnal parkrun bob bore Sadwrn am 9am, a llawer o achlysuron eraill drwy gydol y flwyddyn. Wrth gwrs, mae'r llyn cychod a phad sblasio Aquadare ar agor drwy gydol yr haf hefyd. 

Os gwnaethoch chi fwynhau Gŵyl Aberdâr ac rydych chi eisiau darganfod rhagor am achlysuron yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch Be'sy mlaen RhCT (whatsonrct) ar y cyfryngau cymdeithasol neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/achlysuron am yr wybodaeth ddiweddaraf am achlysuron, gan gynnwys y Sioe Ceir Clasur, Cegaid o Fwyd Cymru, Nadolig yn Rhondda Cynon Taf a llawer yn rhagor.

Roedd Gŵyl Aberdâr 2023 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar ac ymroddgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd.

Wedi ei bostio ar 18/05/23