Mae'r Sioe Ceir Clasur yn dychwelyd unwaith eto eleni i Daith Pyllau Glo Cymru!
Dyma achlysur gwych i'r teulu cyfan ei fwynhau, gyda chyfle i weld ceir clasur mewn cyflwr arbennig a chwrdd â'u perchnogion brwdfrydig a gwybodus. Mae'r cyfan yn digwydd ddydd Sadwrn, 24 Mehefin, rhwng 10am a 4pm.
Yn ôl yr arfer, bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ar y cyd â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg. Pris mynediad yw £3 y pen.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae croeso bob amser i’r Sioe Ceir Clasur yn Nhaith Pyllau Glo Cymru. Mae'r ceir sy'n cael eu harddangos bob tro fel pin mewn papur ac yn rhoi cipolwg i ni ar fywyd y dyddiau a fu. Dyma'r atyniad hanes fyw perffaith gyda'i arddangosfeydd a’i daith danddaearol boblogaidd.
“Mae bob amser yn wych cwrdd ag aelodau’r clwb ceir a chlywed straeon am eu ceir annwyl a’r gwaith sy’n mynd i mewn i ofalu amdanyn nhw! Mae hefyd yn gyfle i ddangos moduron clasurol a modelau unigryw i’r plantos bach, gan eu bod nhw ddim i'w gweld ar ein ffyrdd ni mwyach.
“Hefyd, gyda chymaint o bethau eraill i'w gweld a'u gwneud ar y safle, mae’n ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan.”
Os ydych chi'n dod draw i'r Sioe Ceir Clasur eleni, cofiwch fod modd i chi hefyd ymweld â'n harddangosfeydd rhyngweithiol am ddim, mwynhau pryd o fwyd, byrbryd neu de prynhawn yn Caffe Bracchi, a tharo heibio i'r siop anrhegion i bori'r casgliad o gofroddion, anrhegion clasurol Cymreig neu gynnyrch lleol. Efallai byddwch chi'n gweld ambell beth i ychwanegu at eich casgliad!
Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ein crefftwyr preswyl, Craft of Hearts, yn cynnal ffair grefftau a gweithdai crefft ar y llawr cyntaf.
Mae croeso i ymwelwyr fwynhau taith yr Aur Du hefyd, lle bydd cyn-löwr yn rhoi helmed glöwr ar eu pennau ac yn eu cludo o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser.
Mae pob un o’n tywyswyr yn gyn-löwr a bydd yn rhannu ei straeon personol a’i atgofion gyda chi. Beth am fynd ar DRAM!? Daliwch yn dynn wrth i chi ddynwared taith olaf glo dram i ben siafft y pwll yn y profiad cyffrous yma!!
Mae tocynnau ar gyfer y Sioe Ceir Clasur ar gael yma. Bydd tocynnau ar gael ar y diwrnod hefyd.
Dysgwch ragor am Daith Pyllau Glo Cymru, cadwch le ar Daith Dywys Danddaearol yr Aur Du neu hyd yn oed cadwch fwrdd yn Caffe Bracchi.
Wedi ei bostio ar 03/05/2023