Skip to main content

Bwrdd Gwybodaeth Newydd ger Cofeb Blits Cwm-parc

Cwmparc Memorial for Contensis

Cafodd bwrdd gwybodaeth newydd ei ddadorchuddio'n swyddogol ger Cofeb Blits Cwm-parc, sy'n coffáu'r 28 o fywydau gafodd eu colli mewn cyrch bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn bresennol yn yr achlysur coffaol oedd Aelodau'r Cabinet gan gynnwys y Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, a'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau a Chynghorydd lleol ward Treorci, a thrigolion lleol, disgyblion o Ysgol Gynradd y Parc, ac aelodau o Bwyllgor Prosiect Cofeb Blits Cwm-parc.

Nod yr achlysur dadorchuddio oedd coffáu'r rheiny wnaeth golli eu bywydau yn yr ymosodiad dinistriol ar 29 Ebrill 1941, a wnaeth ddinistrio rhan helaeth o'r pentref ac effeithio ar gartrefi 700 o bobl. Mae'r bwrdd gwybodaeth newydd wedi'i gosod ar hen safle deg tŷ ar Heol y Parc gan nodi hanes ac effaith Blits 1941 ar gymuned Cwm-parc.

Cafodd y bwrdd ei lunio gan Wasanaeth Treftadaeth y Cyngor mewn partneriaeth ag aelodau Pwyllgor y Gofeb ac mae'n cynnwys cod QR sy'n mynd ag ymwelwyr at ragor o wybodaeth mewn perthynas â Phrosiect Digideiddio Cofebion Rhyfel y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi'i ymrwymo'n llawn i gofio am y rheiny gollodd eu bywydau yn ystod Blits Cwm-parc.

"Bydd y Cyngor yn sicrhau bod y safle pwysig yma yn cael ei gynnal a'i gadw, a'i barchu, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd y gwaith atgyweirio diweddar a gosod bwrdd gwybodaeth yn helpu i addysgu ein cymuned am ddigwyddiadau hanesyddol bwysig 29 Ebrill 1941.

"Mae'n ddyletswydd arnom ni i anrhydeddu cydnerthedd a dewrder pobl Cwm-parc, ac rydyn ni'n falch o gefnogi menter sy'n cadw'r straeon yn fyw."

Ers ei dadorchuddio yn 2022, mae safle'r gofeb wedi dod yn ganolbwynt i gofio ac ymgysylltiad y gymuned. Daeth Cofeb Blits Cwm-parc i feddiant Cyngor Rhondda Cynon Taf ym mis Tachwedd 2024, gan sicrhau bod holl waith cynnal a chadw ac atgyweiriadau yn y dyfodol yn cael ei gwblhau yn rhan o gyllideb cofebion y Cyngor. Cytunwyd ar drosglwyddiad y gofeb mewn cyfarfod rhwng Pwyllgor Cofeb Blits Cwm-parc a'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Maureen Weaver BEM, a'r Cynghorydd Bob Harris.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau a Chynghorydd lleol ward Treorci:  "Rwy'n falch o ddweud body bwrdd gwybodaeth newydd yn ei le ger Cofeb Blits Cwm-parc, gan helpu i gadw hanes lleol yn fyw ac i goffáu'r 28 unigolyn wnaeth golli eu bywydau. 

"Hoffwn i ddiolch yn fawr i bawb oedd yn rhan o waith creu'r bwrdd gwybodaeth ac i bawb wnaeth fynychu'r achlysur dadorchuddio, gan helpu i goffáu'r bennod bwysig yma mewn hanes lleol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae Cofeb Blits Cwm-parc a'r bwrdd gwybodaeth newydd yn le i gofio, i ddysgu, ac i fyfyrio - gan anrhydeddu'r gymuned gydnerth a sicrhau bod straeon y rheiny gafodd eu colli yn parhau."

Mae'r bwrdd gwybodaeth yn nodi hanes digwyddiadau trychinebus noson 29 Tachwedd 1941. Cafodd pentref bychan Cwm-parc, ger Treorci, ei ddinistrio mewn cyrch bomio gan Awyrlu'r Almaen - y Luftwaffe. Roedd y cyrch yma wedi achosi'r golled fwyaf o fywydau mewn un noson yng Nghwm Rhondda.

Roedd cymoedd glofaol De Cymru , gan gynnwys Cwm-parc yn cael eu hystyried yn ddiogel rhag y blits am nad oedd llawer o fomiau wedi'u gollwng yno. Roedd hyn wedi gwneud yr ymosodiad yn fwy annisgwyl a thrasig. Roedd y cyrch yn cynnwys 25 o fomwyr. Gollyngwyd ystod o fomiau, gan gynnwys bomiau ffrwydrant uchel a bomiau cyneuol (tân), oedd wedi achosi difrod sylweddol. Roedd lleoliadau allweddol yn ardal Cwm-parc, megis Teras y Parc, Capel y Parc, a Stryd Treharne Uchaf wedi'u taro, gan arwain at ddifrod sylweddol a marwolaethau 28 o bobl, gan gynnwys faciwis o Lundain oedd wedi'u hanfon i Gwm-parc er mwyn bod yn ddiogel.

Cafodd y gymuned ei heffeithio'n sylweddol, gyda nifer o gartrefi yn cael eu dinistrio a theuluoedd yn galaru am eu hanwyliaid. Cafodd gwasanaeth goffa ei gynnal ar 5 Mai 1941 yng Nghapel Salem y Bedyddwyr Cymraeg, wedi'i ddilyn gan gydgladdedigaeth ym Mynwent Treorci. Cafodd cloc deu-wynebog wedi'i oleuo ei ddadorchuddio yn gofeb barhaus, ac mae'r gymuned yn parhau i anrhydeddu'r rheiny a gollodd eu bywydau trwy nifer o weithgareddau coffaol.

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r Prosiect Digideiddio Cofebion Rhyfel a phrosiectau treftadaeth eraill, ewch i: Ein Treftadaeth Rhondda Cynon Taf

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â chefnogaeth y Cyngor i Gymuned y Lluoedd Arfog, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 29/07/2025