Helpwch i newid pethau er mwyn sicrhau dyfodol iachach a gwasanaethau lleol gwell i drigolion RhCT.
Mae Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf, a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), yn gwahodd pawb sy'n byw, yn astudio, yn gweithio neu'n chwarae yn y Fwrdeistref Sirol i fod yn rhan o wneud newid i wella canlyniadau iechyd yn RhCT!
Ymunwch â charfan CYBI RhCT yn achlysur CEGAID O FWYD CYMRU ddydd Sadwrn 2 Awst a dydd Sul 3 Awst 2025, o 11am i 5pm, i gael dysgu rhagor.
Ystyr 'Penderfynyddion Iechyd' yw ffactorau anfeddygol sy'n dylanwadu ar ein hiechyd. Mae modd i'r rhain fod yn gorfforol, yn feddyliol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol. Maen nhw'n cynnwys pa mor llygredig yw'r aer yn eich stryd, ansawdd eich tai, trafnidiaeth, pa mor dda yw'r ysgolion lleol a ph'un a oes gyda chi swydd.
Mae'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd, sy'n cael ei gyd-arwain gan y Cyngor a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn dwyn ynghyd bartneriaid o Brifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Interlink RCT ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried sut mae modd i brofiad bywyd trigolion, ochr yn ochr ag ymchwil a thystiolaeth, helpu i sicrhau dyfodol iachach i bawb a gwella gwasanaethau lleol.
Meddai Zoe Lancelott - Pennaeth Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf:
“Rydyn ni'r Cyngor yn chwarae rhan sylfaenol wrth lunio’r amodau y mae pobl yn cael eu geni a'u magu ynddyn nhw, yn ogystal â'r rhai y maen nhw'n byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae ynddyn nhw. Mae penderfynyddion iechyd yn cael effaith fawr ar iechyd pobl.
“Ym mis Rhagfyr 2023, llwyddon ni i ffurfio'r Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd cyntaf yng Nghymru a dyfarnwyd £5 miliwn i’r cydweithrediad gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal. Nod hyn oedd ymgorffori gweithgarwch ymchwil yn y Cyngor i leihau anghydraddoldebau iechyd a helpu i newid bywydau pobl sy’n byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae yn y Fwrdeistref Sirol.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i ffurfio carfan gref i gefnogi’r Cyngor yn y gwaith yma, a bellach mae modd i ni ddechrau siarad â’r cyhoedd am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Byddwn ni'n cyfuno'r profiad bywyd yma gydag ymchwil a thystiolaeth o ffynonellau eraill er mwyn helpu'r Cyngor i wneud penderfyniadau am y gwasanaethau y mae'n eu darparu i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy'n byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae yn y Fwrdeistref Sirol.
Yn rhan o'r cam yma o'r prosiect, mae carfan CYBI wedi lansio gwefan at ddibenion hysbysu, ymgysylltu a helpu pawb i gymryd rhan.
Enw'r wefan newydd yw: https://gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk/.
Mae'r wefan yn gyfle i ddysgu rhagor, mynychu cyrsiau a gweithdai, ymateb i arolygon a chwis, yn ogystal â chymryd rhan yn uniongyrchol er mwyn helpu i 'Wneud Newid' i'ch bywyd chi a chenedlaethau'r dyfodol yn RhCT.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Dylai pawb gael y cyfle i fyw bywyd iach, ni waeth pwy ydyn nhw na ble maen nhw’n byw.
"Drwy ganolbwyntio ar faterion ehangach sy’n effeithio ar iechyd megis cyflogaeth, tai, addysg a'r amgylchedd ffisegol, mae gyda'r cymunedau lleol rydyn ni'n eu cynorthwyo gyfle anhygoel i gael effaith fawr ar leihau anghydraddoldebau iechyd ac amddifadedd ehangach.
"Mae cymunedau Rhondda Cynon Taf yn wynebu rhai o'r lefelau uchaf o ran amddifadedd, sydd yn ei dro'n cynyddu anghydraddoldebau iechyd ac yn lleihau disgwyliad oes. Rydyn ni'n gobeithio bydd y bartneriaeth yma'n ein helpu ni i wella dyfodol y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yr Athro Dan Bristow:
“Mae hwn yn gam cyffrous o’r daith i greu diwylliant ymchwil bywiog sy’n annog penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
“Bydd y CYBI'n helpu’r Cyngor i gasglu ymchwil, tystiolaeth a safbwyntiau trigolion, ac yn eu defnyddio i lywio penderfyniadau a chyfleu'r canfyddiadau i eraill. Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae wrth lunio'r amodau y mae pobl yn byw, yn astudio, yn gweithio ac yn chwarae ynddyn nhw, a nod y cydweithrediad yw helpu i wella effaith y gwasanaethau a ddarperir ac, yn y pen draw, iechyd a lles trigolion RhCT.
Am ragor o wybodaeth, galwch heibio i gwrdd â'r garfan yn achlysur CEGAID O FWYD CYMRU, a fydd yn dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ddydd Sadwrn 2 Awst a dydd Sul 3 Awst 2025, o 11am i 5pm, neu ewch i https://gwnewchnewidyn.rctcbc.gov.uk/.
Wedi ei bostio ar 31/07/2025