Mae gwaith lliniaru llifogydd wedi'i gwblhau yn ardal Cwm-bach, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i leihau perygl llifogydd yn y gymuned.
Nod y cynllun ar gyfer Heol Tirfounder a Bro Deg yw mynd i'r afael â risg hysbys mewn cwrs dŵr cyffredin dienw, sy'n tarddu i'r dwyrain o Fro Deg ac yn llifo i'r Afon Cynon.
Gorlifodd y cwrs dŵr yn ystod stormydd Dennis a Ciara, gyda malurion yn rhwystro sianel y cwrs dŵr a'r rhwydwaith ceuffosydd cysylltiedig.
Dechreuodd y gwaith lliniaru llifogydd ddechrau mis Mehefin 2025, a chafodd ei gwblhau'n gynharach na'r disgwyl ddydd Gwener, 25 Gorffennaf.
Mae'r cynllun wedi atgyweirio'r cwrs dŵr cyffredin gyda mesurau diogelu ymyl yr afon a rheoli malurion.
Bwriad hyn yw sefydlogi'r sianel a'r argloddiau, lleihau difrod i ymyl yr afon, a lleihau rhwystrau – gan leihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin.
Gosododd contractwr y Cyngor, Hammond ECS Ltd, feinciau newydd hefyd, er mwyn rhoi lle i'r gymuned fwynhau'r ardal goedwig.
Roedd Heol Tirfounder/Bro Deg yn gynllun a enwyd yn rhan o raglen Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26, ac mae £2.83 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer Rhondda Cynon Taf.
Mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau £1.69 miliwn o'r cynllun Grant Gwaith Graddfa Fach, a £1.5 miliwn o'r Grant Ffyrdd Gwydn, ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.
Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad tra bod y gwaith yn cael ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Wedi ei bostio ar 31/07/2025