Skip to main content

Cymryd camau gweithredu dros yr haf eleni i glirio cwlferi a chyrsiau dŵr preifat

Private-Culverts-WELSH

Mae'r Cyngor yn gofyn i berchnogion tir sy'n cynnwys cwlferi a chyrsiau dŵr preifat i ystyried cyflawni gwaith cynnal a chadw allweddol dros yr haf eleni, a hynny er mwyn lleihau perygl llifogydd dros fisoedd yr hydref a'r gaeaf.

Yma, rydyn ni'n rhoi argymhellion defnyddiol er mwyn eich helpu chi i wirio asedau preifat, a'u cynnal a chadw, yn ddiogel gan fanteisio ar y tywydd braf dros yr haf, a'ch cyfeirio at gyngor sydd ar gael gan y Cyngor. Gall cymryd camau gweithredu bach nawr helpu i leihau perygl llifogydd mewn ychydig fisoedd.

Y Cyngor sy'n gyfrifol am gynnal a chadw cwlferi a chyrsiau dŵr ar ffyrdd a thir sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol. Yn ogystal â buddsoddiad sylweddol yn y maes yma, mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn – gyda rhagor o waith yn cael ei gynnal yn y gaeaf neu pan fo tywydd eithafol ar y ffordd. Fodd bynnag, dydy cyfrifoldeb y Cyngor ddim yn cynnwys asedau preifat.

Felly, gallai’r camau gweithredu bach sy’n cael eu cyflawni gan y gymuned nawr helpu i leihau’r perygl o lifogydd dros y gaeaf. Er enghraifft, yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024, roedd tua 64% o’r cwlferi a gafodd eu heffeithio yn eiddo preifat. Roedd yr asedau preifat yma’n cynrychioli tua 20% o’r holl eiddo a gafodd ei effeithio yn ystod y storm.

Felly, os ydych chi'n berchen ar dir gyda chwlfer, ffos, nant neu gwrs dŵr yn llifo trwyddo neu oddi tano, rydych chi'n 'berchennog glannau'r afon' ac mae gyda chi gyfrifoldeb i'w gynnal a chadw. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth mewn perthynas â hawliau a chyfrifoldebau perchnogion glannau’r afon yma.

Mae misoedd yr haf yn gyfle gwych i sicrhau bod isadeiledd cwlferi a chyrsiau dŵr preifat yn cael eu cynnal a chadw - bydd yn sicrhau eich bod chi wedi paratoi yn y ffordd orau ar gyfer misoedd y gaeaf, a bod tywydd ffafriol yn yr haf er mwyn cymryd unrhyw gamau gweithredu yn ddiogel. Dyma restr fer o bethau y gallwch chi eu gwneud:

  • Gwirio a chlirio unrhyw rwystrau - trwy symud unrhyw ganghennau, dail, malurion a silt a allai rwystro llif y dŵr.
  • Cynnal a chadw llystyfiant - trwy dorri planhigion sydd wedi gordyfu a allai rwystro llif y dŵr.
  • Cael gwared ar wastraff mewn ffordd briodol - peidiwch byth â chael gwared ar wastraff y cartref neu ardd trwy'i roi mewn cyrsiau dŵr, gan y gallai achosi rhwystrau.
  • Gwirio cwlferi yn rheolaidd - er mwyn sicrhau nad ydyn nhw wedi'u rhwystro, wedi cwympo neu wedi'u herydu.
  • Rhoi gwybod am broblemau mawr - os oes gyda chi bryderon mewn perthynas â rhwystrau sy'n effeithio ar gwrs dŵr, rhowch wybod i'r Cyngorgan ddefnyddio’n tudalen we.

Mae’r Cyngor yma er mwyn helpu i ddarparu cyngor a chymorth, bydd lefel y cymorth yma yn cael ei hasesu ar sail achosion unigol.

Mewn ffordd debyg, mae'n syniad da i BOB perchennog tŷ – p'un a ydych chi'n berchennog glannau'r afon neu beidio - fanteisio ar fisoedd yr haf i sicrhau bod system ddraenio breifat eu heiddo wedi'i chynnal a chadw'n briodol a'i bod yn barod i ymateb i berygl llifogydd. Gall hyn amrywio o sicrhau nad oes rhwystrau mewn cwteri a phibellau dŵr, i osod mesurau diogelu megis rhwystrau rhag llifogydd. Mae cyngor pellach ar gyfer pob perchennog tŷ wedi'i gynnwys ar ddiwedd yr erthygl yma.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : "Mae'r haf wedi cyrraedd felly rydyn ni'n gofyn i berchnogion tir ystyried cynnal gwaith cynnal a chadw ar gwlferi, ffosydd, nentydd a chyrsiau dŵr preifat, a hynny er mwyn paratoi ar gyfer y gaeaf. Gall camau gweithredu bach megis clirio rhwystrau, cynnal a chadw llystyfiant a gwirio cwlferi helpu i atal llifogydd - nid yn unig i dir ac eiddo'r perchnogion, ond i dir/eiddo eu cymdogion ac yn eu cymunedau ehangach hefyd.

“Gall dyfrffyrdd sydd heb eu cynnal a chadw'n briodol arwain at lifogydd a difrod amgylcheddol - gallai hyn hyd yn oed arwain at gamau gorfodi posibl os profir nad yw perchnogion tir wedi cymryd camau gweithredu. Mae'r Cyngor yma i ddarparu cyngor, ac mae'n Carfan Rheoli Perygl Llifogydd ar gael os oes gan berchnogion tir preifat unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'u cyrsiau dŵr a pha gamau gweithredu y mae angen iddyn nhw eu cymryd. Mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n rhoi gwybod i ni am unrhyw broblemau mawr.”  

Isod mae cyngor ar gyfer POB perchennog tŷ mewn perthynas â'r camau gweithredu y gallwch chi eu cymryd dros yr haf eleni i sicrhau bod eiddo wedi'u paratoi yn y ffordd orau bosibl ar gyfer tywydd y gaeaf a bygythiad llifogydd. Mae manylion pellach am Barodrwydd ac Ymwybyddiaeth Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf i'w gweld ar wefan y Cyngor.

  • Gwybod eich perygl llifogydd - gwiriwch fapiau llifogydd a chofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd neu rybuddion tywydd er mwyn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.
  • Cynnal a chadw'ch systemau draenio - sicrhewch fod cwteri, cwlferi a chyrsiau dŵr yn glir er mwyn atal rhwystrau.
  • Gosod mesurau diogelu rhag llifogydd - defnyddiwch rwystrau rhag llifogydd, gorchuddion brics awyru a falfiau unffordd er mwyn helpu i ddiogelu eich eiddo.
  • Paratoi cynllun llifogydd - nodwch fanylion cyswllt mewn argyfwng a pharatowch becyn llifogydd sy'n cynnwys nwyddau hanfodol.
  • Rhoi gwybod am broblemau yn gynnar - os ydych chi'n sylwi ar ddraeniau neu gwlferi sydd wedi'u rhwystro. Mae modd i chi glirio rhwystrau bach eich hun os yw'n ddiogel i chi wneud hynny. Dewch o hyd i gyngor pellach yn rhan o'n hymgyrch 'Cofiwch eich Cymdogion'.
Wedi ei bostio ar 30/07/2025