Mewn cam beiddgar tuag at feithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol ym meddyliau ifainc, mae gweithdy ysgol Arwyr Eco wedi bod yn cael effaith barhaol ar Ysgolion Cynradd ledled Rhondda Cynon Taf. Dan arweiniad y Garfan Ynni a Lleihau Carbon, mae'r fenter wedi'i chynllunio i addysgu ac ysbrydoli disgyblion am ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd trwy weithdai rhyngweithiol.
Mae gweithdy Arwyr Eco yn rhan o raglen ehangach Prosiect Allgymorth, sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth am weithredu ar newid hinsawdd, rheoli ynni a datgarboneiddio. Mae'r fenter yma sy'n canolbwyntio ar ysgolion yn ceisio meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ymhlith disgyblion ifainc, gan sicrhau bod gyda nhw'r wybodaeth a'r brwdfrydedd i hyrwyddo materion cynaliadwyedd yn eu bywydau eu hunain.
Mae newid yn yr hinsawdd yn dod yn fater byd-eang brys, mae'r gweithdy'n cyd-fynd â thargedau Sero Net Llywodraeth Cymru a nodau addysg cynaliadwyedd. Drwy gyflwyno cysyniadau megis ynni adnewyddadwy a ffynonellau ynni, ôl troed carbon, a chadwraeth ynni i ddisgyblion ysgol gynradd, mae Prosiect Allgymorth yn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn wybodus ac yn cael eu grymuso i weithredu.
Mae gweithdy ysgol Arwyr Eco wedi'i seilio ar brofiadau dysgu ymarferol ac sy’n ennyn diddordeb. Drwy weithgareddau deinamig, caiff disgyblion eu hannog i feddwl yn feirniadol am sut mae ynni'n cael ei harneisio ar y ddaear a datblygu archarwyr a dihirod.
Mae cydrannau allweddol y gweithdy yn cynnwys:
Addysg Ynni Adnewyddadwy – Mae disgyblion yn archwilio ynni solar, gwynt a hydro trwy greu pwerau ar gyfer eu Harwr Eco.
Addysg Ynni Anadnewyddadwy – Mae disgyblion yn archwilio ynni glo, nwy ac olew trwy greu pwerau ar gyfer eu dihirod drwg.
Ymgysylltu â'r Gymuned – Caiff ysgolion eu hannog i gymryd rhan mewn ymrwymiadau hirdymor tuag at arbed ynni a lleihau eu hôl troed carbon.
Prosiectau Ynni Adnewyddadwy Lleol – Mae’r disgyblion yn dysgu am y prosiectau ynni adnewyddadwy lleol sy’n digwydd yn eu hardal, a hyd yn oed yn eu hysgol!
Yn ei gamau cynnar, cafodd y gweithdy ei dreialu yng Nghynhadledd Lluosi i Athrawon, lle helpodd adborth o wahanol ysgolion i fireinio'r dull cyflwyno. Mae'r broses gydweithredol yma wedi sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn ddiddorol, yn addysgiadol, ac yn berthnasol i ddisgyblion ifainc.
Ers ei lansio, mae Prosiect Allgymorth wedi ennill momentwm, gan gyrraedd nifer gynyddol o ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Mae athrawon a disgyblion fel ei gilydd wedi canmol y gweithdy am ei ddull deniadol a'i berthnasedd i'r byd go iawn. Mae'r fenter bellach yn cael ei datblygu ymhellach i ddarparu ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg a disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan wneud addysg gynaliadwyedd yn fwy cynhwysol.
Yn ogystal â hyn, mae ymdrechion ar y gweill i greu Pecyn Hyfforddi i Athrawon, a fydd yn caniatáu i addysgwyr gyflwyno gweithdy Arwyr Eco yn annibynnol. Bydd ehangu’r ddarpariaeth yma’n cynyddu cyrhaeddiad ac effaith hirdymor y gweithdy yn sylweddol.
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: Ynni@rctcbc.gov.uk
Mae modd i bobl ifainc hefyd gynyddu eu gwybodaeth am bethau gwyrdd drwy deithio i fyd ailgylchu, gan ddarganfod sut a pham mae ailgylchu mor bwysig i'r Fwrdeistref Sirol gyfan a thu hwnt drwy ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Alun Maddox ym Mryn Pica, Llwydcoed.
Yn ystod yr ymweliadau arbennig yma, mae modd i ysgolion gymryd rhan mewn taith ryngweithiol gan ddarganfod nifer o gyfrinachau am ailgylchu. Bydd cyfle iddyn nhw hefyd weld drostyn nhw eu hunain sut mae modd defnyddio gwastraff i greu eitemau newydd, a sut mae gwastraff yn cael ei ddidoli yn fathau gwahanol, yma yn Rhondda Cynon Taf.
Dysgwch ragor a chadw lle i'ch ysgol yn www.rctcbc.gov.uk/YmweldâBrynPica
Wedi ei bostio ar 01/08/2025