Bydd cynllun trwsio pwysig yn dechrau'n fuan ar bont droed Stryd y Lofa yn Nhrehafod, sy'n gysylltiad lleol allweddol â Pharc Gwledig Barry Sidings. Rhaid cau'r bont droed er mwyn cynnal y gwaith yn ddiogel.
Mae'r Cyngor wedi penodi Taziker Ltd i gyflawni'r cynllun. Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 15 Mai. Yn ogystal â chynnal y prif waith i baentio'r bont, bydd y Cyngor hefyd yn cynnal gwaith adfer meini a choncrid, ailosod parapedau a gosod wyneb newydd. Does dim rhaid cynnal gwaith cryfhau ar y bont. Bydd y cynllun yn cynnwys trwsio rhan o'r wal gynnal ar bwys y bont droed.
Fydd dim mynediad i gerddwyr i'r bont droed o ddechrau'r gwaith (15 Mai). Mae disgwyl i'r gwaith bara oddeutu 12 wythnos. Bydd llwybr amgen ar gael ar hyd Heol Trehafod, Teras Cadwgan a llwybr troed Parc Gwledig Barry Sidings, sydd ar ochr arall Afon Rhondda.
Bydd rhaid cau rhan o Stryd y Lofa ar bwys y bont, rhwng Stryd y Gorllewin a Stryd yr Afon (o 7.30am ar 15 Mai), ond bydd mynediad ar gael i eiddo'r stryd. Bydd llwybr amgen ar gael ar hyd Lôn Fawr a Stryd y Lofa. Fydd dim mynediad i'r gwasanaethau brys na cherddwyr ar y rhan wedi'i chau o Stryd y Lofa.
Mae'r cynllun yma yn Nhrehafod yn rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol y Cyngor gwerth £27.665 miliwn ar gyfer 2023/24 ac yn rhan o gyllid wedi'i ddyrannu gwerth £780,00 ar gyfer Strwythurau'r Parciau.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae pont droed Stryd y Lofa yn Nhrehafod yn gyswllt pwysig â Pharc Gwledig Barry Sidings a bydd y cynllun yma'n sicrhau bod y strwythur yn ddiogel ar gyfer y gymuned. Ynghyd â thrwsio'r bont, byddwn ni'n cynnal gwaith ar ran o'r wal gynnal.
"Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a thrwsio mwy na 1,500 o strwythurau sy'n cefnogi ein rhwydwaith ffyrdd ledled y Fwrdeistref Sirol a byddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn y maes yma yn 2023/24. Mae ein Rhaglen Gyfalaf wedi dyrannu £4.45 miliwn ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd a £780,000 ar gyfer Strwythurau'r Parciau. Mae hyn ar wahân i'r £20.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru i drwsio difrod Storm Dennis dros y flwyddyn nesaf.
"Bydd y gwaith ar Stryd y Lofa yn Nhrehafod yn dechrau ar 15 Mai a bydd rhaid cau'r bont er mwyn cynnal y gwaith. Bydd hefyd rhaid cau'r ffordd a chreu llwybr amgen byr. Hoffwn i ddiolch i'r trigolion lleol ymlaen llaw am eu cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith yma er budd y gymuned. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r contractwr i fwrw ymlaen â'r gwaith cyn gynted ag y bo modd ac yn y ffordd fwyaf effeithlon ag sy'n bosib."
Wedi ei bostio ar 05/05/2023