Skip to main content

Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi rhieni maeth

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth (Foster Care Fortnight™) eleni rhwng 15a 28 Mai, mae'r Rhwydwaith Maethu, prif elusen faethu'r DU, a gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, fel Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i gefnogi a'i gwneud hi'n haws i'w gweithwyr faethu ochr yn ochr â gweithio. 

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40% o rieni maeth yn maethu ochr yn ochr â gwaith arall, ac mae eu polisi 'cyfeillgar i faethu' yn annog cyflogwyr i roi hyblygrwydd ac amser i ffwrdd o'r gwaith i weithwyr sy'n ddarpar rieni maeth ac sy'n mynd trwy'r broses ymgeisio. 

Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi gweithwyr sy'n rhieni maeth yn barod, er mwyn caniatáu amser i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer hyfforddiant, mynd i baneli, croesawu plentyn newydd i'w cartref ac ymateb i unrhyw argyfyngau sy'n codi. 

Gall cael cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth allweddol o ran penderfyniad gweithiwr i ddod yn rhiant maeth.

Meddai Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope: "Wrth i'r angen am rieni maeth barhau i dyfu, mae angen cymorth ein cymuned yng Nghymru arnon ni. Rydyn ni'n gweld deilliannau mwy cadarnhaol pan fo plant yn aros mewn cysylltiad, yn aros yn lleol, ac yn aros gyda rhywun sy’n gefn iddyn nhw yn y tymor hir. Felly, os oes modd i gyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr wrth iddyn nhw ddod yn rhieni maeth, gall awdurdodau lleol helpu rhagor o blant i aros yn eu hardaloedd lleol, ac yn y pendraw eu helpu nhw i gael dyfodol gwell."

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple"Fel awdurdod lleol, rydyn ni'n gyfrifol am bob plentyn sydd angen gofal maeth, ac mae modd i ni fel rhieni corfforaethol gefnogi ein rhieni maeth sy'n gweithio i'r Cyngor drwy gynnig hyblygrwydd a chymorth yn y gweithle. Dyma'r rheswm pam rydyn ni wedi cyflwyno polisi cyfeillgar i faethu yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf." 

"Mae cysylltu â chyflogwyr lleol i fod yn gyfeillgar i faethu yn un o nifer o bethau rydyn ni'n eu gwneud i gefnogi ein rhieni maeth ledled Rhondda Cynon Taf."

 Os ydych chi'n rhedeg busnes lleol ac yn dymuno ymuno â ni drwy ddod yn gyflogwr cyfeillgar i faethu, cysylltwch â ni. I ddysgu rhagor am ddod yn rhiant maeth yng Nghymru, ewch i rhct.maethucymru.llyw.cymru

Wedi ei bostio ar 19/05/23