Â'r haf ar y gorwel, bydd y rownd nesaf o docynnau ar gyfer Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn cael eu rhyddhau 8am ddydd Llun 19 Mehefin.
Mae bellach modd prynu tocynnau ar gyfer yr holl sesiynau nofio sydd ar gael rhwng 1 a 31 mis Gorffennaf Mehefin, gan gynnwys y sesiynau nofio newydd yn ystod y dydd.
Prynwch eich tocynnau yma:
Yn ystod hanner tymor, mae Lido Ponty ar agor bob dydd. Mae dwy sesiwn nofio ben bore, ac yna chwe sesiwn hwyl i'r teulu /hamddenol lle mae'r offer a'r gweithgareddau gwynt allan a ffynnon y pwll sblasio ymlaen.
Bydd yr amserlen haf yn edrych fel hyn:
- Dwy sesiwn nofio mewn lonydd/nofio hamddenol ben bore yn y prif bwll ac yn y pwll gweithgareddau.
- Pedair sesiwn yn y prif bwll yn ystod y dydd ar gyfer nofio mewn lonydd/nofio hamddenol ac mae'r pwll sblasio ar agor i'r rhai sydd â phlant sy'n iau nag oed ysgol.
- Dwy sesiwn ar ôl ysgol lle mae'r tri phwll ar agor a'r cwrs rhwystrau, zorb a chychod gwynt allan.
Bydd penwythnosau, gwyliau banc a gwyliau ysgol yn aros yr un fath drwy gydol y tymor, gyda dwy sesiwn nofio ben bore, ac yna chwe sesiwn hwyl i'r teulu/hamddenol.
Bwriwch olwg ar yr amserlen.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae cyfnod yno'r flwyddyn eto ar droed, pan fydd y tywydd yn cynhesu (gobeithio) a Lido Ponty yn ymestyn ei oriau agor er mwyn cynnig hyd yn oed mwy o sesiynau yn ei byllau awyr agored cynnes.
“Mae sesiynau nofio ben bore yn parhau i fod yn boblogaidd beth bynnag fo’r tywydd a rhaid dweud diolch yn fawr iawn i’n carfan ymroddedig sydd wastad yma yn y Lido ar gyfer sesiwn nofio gyntaf y dydd, boed law neu hindda!
“Mae’r amserlen newydd yn rhoi rhagor o gyfleoedd i nofio mewn lôn neu nofio’n hamddenol yn ystod y dydd yn Lido Ponty. Gan fod y pwll sblasio â ffynnon ar agor, mae hefyd yn lle braf i fynd â'r plantos bach ar ddiwrnod heulog. Yn ogystal â'r Lido, mae modd mwynhau parc ehangach Parc Coffa Ynysangharad gan gynnwys Parc Chwarae'r Lido a gwneud diwrnod ohoni pan mae pawb arall yn yr ysgol.
“Mae sesiynau ar ôl ysgol yn hynod boblogaidd felly rydyn ni'n eich cynghori chi i gadw lle ymlaen llaw. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yn Lido Ponty yn ystod haf 2023."
Gwybodaeth ddefnyddiol
Mae tocynnau ar gyfer Lido Ponty yn costio £3 i oedolion. Mae'r Lido am ddim i blant 16 oed ac iau. Rhaid prynu tocynnau ar-lein ac ymlaen llaw. Does dim modd galw heibio, rhaid eich bod chi wedi cadw lle.
Does dim modd archebu mwy na 6 thocyn. Os byddwch chi'n ceisio prynu mwy na chwe thocyn mewn un sesiwn, bydd y system yn dangos bod dim argaeledd. Os ydych chi’n dymuno prynu tocynnau ar gyfer grŵp, e-bostiwch lidoponty@rctcbc.gov.uk
Mae'r system ar gyfer prynu tocynnau a sesiynau nofio ben bore a sesiynau hwyl i'r teulu/hamddenol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw lle ar y sesiwn rydych chi ei heisiau. Os ydych chi eisiau'r ddwy sesiwn gyntaf, dewiswch nofio ben bore, os ydych chi eisiau sesiynau hwyrach - gan gynnwys penwythnosau ac ar ôl ysgol - dewiswch hwyl i'r teulu/anffurfiol.
Mae bandiau i wneud gweithgareddau'n costio £2.50 y pen, a rhaid prynu un ar gyfer pob person (gan gynnwys plant dan 16 oed) sy'n dymuno mynd ar y cwrs rhwystrau, zorb a chychod gwynt. Mae modd prynu'r rhain ar-lein neu pan rydych chi'n cyrraedd ar gyfer eich sesiwn nofio.
Mae Lido Ponty yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd. Dysgwch ragor am gyfarwyddiadau, parcio a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yma.
Wedi ei bostio ar 26/05/2023